Canllawiau Daeareg

Detholiad o ganllawiau cyffredinol i gerrig a daeareg Geoparc Byd-eang UNESCO y Fforest Fawr.

Cyhoeddwyd nifer o ganllawiau dros y blynyddoedd i gerrig a thirwedd yr ardal hon. Cafodd rhai eu hysgrifennu ar gyfer darllenwyr cyffredinol, mae rhai eraill yn cymryd bod y darllenydd yn meddu ar ryw lefel o wybodaeth.

Mae copïau o’r rhan fwyaf o’r rhain ar gael i’w prynu yng Nghanolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol yn Libanus. Er ei bod yn bosibl bod rhai eraill allan o brint erbyn hyn, yn aml maent ar gael mewn llyfrgelloedd ac yng nghasgliadau ysgolion a cholegau felly cânt eu cynnwys yma.

Geo-lwybrau

Mae cyfres o daflenni wedi’i hanelu at ymwelwyr arferol yn cael ei pharatoi er mwyn cyflwyno treftadaeth ddaearegol amrywiol y Geoparc. Dysgwch fwy…

Arolwg Daearegol Prydain

Astudiaethau Daearegol

Mae Arolwg Daearegol Prydain wedi llunio cyfres o ‘Astudiaethau Daearegol’ ac ‘esboniadau taflen’ er mwyn cyd-fynd â llawer o’r mapiau graddfa 1:50,000 mae’n eu cyhoeddi.  Y rhai sydd ar gael ar gyfer ardal y Geoparc yw:

  • Geology of the Llandovery District – esboniad byr o daflen y map daearegol 212 Llanymddyfri (cyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2009)
  • Geology of the Brecon District – esboniad byr o daflen y map daearegol 213 ‘Brecon’ (38tt, cyhoeddwyd yn 2005)
  • Geology of the South Wales Coalfield, part V; the area around Merthyr Tydfil, 3ydd argraffiad. Astudiaeth o daflen  Arolwg Daearegol Prydain 231 (52tt, argraffwyd ym 1988) 

Er bod y map ar gael, nid oes astudiaeth fodern neu ‘esboniad taflen’ ar gael ar gyfer ardal Rhydaman (taflen 230) sy’n cynnwys rhan dde-orllewinol y Geoparc. Fodd bynnag, gellir cael copïau o astudiaeth 1907 yn uniongyrchol o Arolwg Daearegol Prydain.

Gellir prynu’r ‘esboniadau taflen’ byr a’r mapiau 50,000 o ardaloedd Aberhonddu a Llanymddyfri gan Arolwg Daearegol Prydain BGS mewn pecynnau am £18.00 – dilynwch y ddolen uchod i Arolwg Daearegol Prydain.

Cyfres Daeareg Ranbarthol Prydain

Cyhoeddwyd argraffiad cyntaf y teitl Wales yn y gyfres hon gan Arolwg Daearegol Prydain yn 2007.  Mae’n cymryd lle’r ddau ganllaw blaenorol i Ogledd a De Cymru. Mae’n rhoi sylfaen dda o ran gwybodaeth am ddaeareg y rhanbarth. (230tt gan gynnwys map daearegol creigwely graddfa 1:625,000 o Gymru)

Ffynonellau eraill

The rocks of Wales: their story – llyfr 160 tudalen llawn lluniau hardd yng nghyfres ‘Compact Cymru’ gan Wasg Carreg Gwalch. Mae’r awdur Dyfed Elis-Gruffydd yn adnabod daeareg Cymru’n dda ac yn ei gyfleu i’r darllenydd cyffredin mewn ffordd afaelgar gyda phytiau hanesyddol a diwylliannol wedi’u gwasgaru trwyddo. Mae Pennod 6 wedi’i neilltuo i ‘Wlad y Tywodfaen Coch’. Newydd cael ei gyhoeddi yn 2019 ac yn cael ei werthu am £8 yng nghanolfannau’r Parc Cenedlaethol a mannau eraill. Rhif ISBN 978-1-84524-295-4

RockTrails: South Wales – canllaw sydd wedi’i ysgrifennu’n glir ac wedi’i anelu at y cerddwr sydd â diddordeb yn naeareg a thirluniau De Cymru. O’r 16 taith gerdded dan sylw, mae 6 yn y Geoparc a chwpl eraill ym mharth dwyreiniol y Parc Cenedlaethol. Mae ei 284 tudalen yn llawn ffotograffau lliwgar, mapiau a diagramau clir. Ysgrifennwyd gan Paul Gannon a chyhoeddir gan Pesda Press yn 2016. Rhif ISBN 9781906095529

Mae’r gyfrol ‘The Geology of South Wales: a field guide’ yn llawlyfr llawn lluniau lliwgar 282 tudalen o hyd sy’n gyflwyniad i greigiau’r rhanbarth. Mae’r gyfrol hefyd yn cynnwys pennod gyda manylion pedair taith o amgylch blaenau afonydd Nedd a Thawe yn ogystal â chyflwyniad cyffredinol i ddaeareg De Cymru. Fe ysgrifennwyd a chyhoeddwyd y gyfrol gyntaf yn 2008 gan Gareth T. George. Fe gyhoeddwyd y gyfrol ddiweddaraf sy’n cynnwys mwy o wybodaeth ar ddiwedd 2015. Mae’r gyfrol ar gael am £18.75 yng nghanolfannau’r Parc Cenedlaethol.

Rhif ISBN: 978-0-9559371-2-5

Calchfaen ac Ogofâu

Cafodd llyfr clawr caled 254 tudalen ei gyhoeddi gan Wasg Prifysgol Caergrawnt ym 1989 o’r enw ‘Limestones and Caves of Wales’.  Mae’r golygydd, T D Ford, wedi ymrestru arbenigwyr i ddisgrifio daeareg a geomorffoleg ardaloedd Calchfaen Carbonifferaidd Cymru a chrynhoi cyflwr y wybodaeth am y prif systemau ogofâu, gan fynd ati i asesu esblygiad morffolegol y systemau a nodweddion y dirwedd sy’n gysylltiedig.  Mae hefyd yn ymwneud â fflora, ffawna, archaeoleg a hydroleg ogofâu.

Dylech chi hefyd gadw llygad allan am lyfryn 32 tudalen a ysgrifennwyd gan Mike Simms ac a gyhoeddwyd ym 1998 gan y British Cave Research Association (BCRA) o’r enw ‘Caves & Karst of the Brecon Beacons National Park’ sy’n disgrifio tair taith gerdded yn y Geoparc sy’n canolbwyntio ar i) Carreg Cennen a’r Mynydd Du, ii) system ogofâu Dan yr Ogof a iii) ogofâu cymoedd Mellte a Nedd Fechan.  (Rhif 7 yng nghyfres ‘Cave Studies’ BCRA) ISBN 0-900265-20-5

Gwibdeithiau Daearegol

Mae tri theitl sy’n werth cadw llygad allan amdanynt. Mae pob un yn cynnwys deunydd sy’n berthnasol i ran o’r Geoparc.

Mae ‘Geological Excursions in Powys, Central Wales’ (golygwyd gan N.H.Woodock ac M.G.Bassett 1993,  366tt: ISBN 0-7083-1217-9) yn rhestru 15 gwibdaith ar wahân o Fryniau Berwyn yn y gogledd i faes glo de Cymru yn y de.  Mae penodau 14 a 15 yn cyfeirio at ‘Hen Dywodfaen Coch Bannau Brycheiniog i ardal y Mynydd Du’ ac am y ‘Calchfaen Carbonifferaidd Cnwd Gogleddol Maes Glo De Cymru’ – lleolir rhan helaeth ohono yn Geoparc y Fforest Fawr.

Mae ‘Geological Excursions in Dyfed, South West Wales’ (cyhoeddwyd gan Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru, golygwyd gan M.G.Bassett 1982,  327tt) yn rhestru 19 gwibdaith ar wahân o Sir Benfro i Aberystwyth ac i’r dwyrain i’r Geoparc. Mae Pennod 15 yn sôn am ‘Darnau Ordofigaidd a Silwraidd yn ardal Llangadog-Llandeilo area’.

‘Silurian Field Excursion: a geotraverse across Wales and the Welsh Borderland’ (cyhoeddwyd gan Amgueddfa Genedlaethol Cymru (cyfres ddaearegol), D.J.Siveter, R.M.Owens ac A.T.Thomas 1989, 133tt). Mae Pennod 5 yn sôn am ‘ardal Llanymddyfri-Llandeilo: amgylcheddau ymyl silffoedd ar ymyl deheuol Basn Cymru’.

Hefyd ar gael mae canllaw maes i ‘Geology of Powys in Outcrop’ a gyhoeddwyd gan Gyngor Sir Powys ar ddiwedd y 1970au. Nid yw mewn print bellach, ond mae copïau ar gael drwy’r gwasanaeth llyfrgelloedd lleol. Mae’n disgrifio tua 10 lleoliad yn rhan Powys y Geoparc.

Daeareg Gwaternaidd

Mae llyfr tenau 2002 Richard Shakesby sy’n llawn gwybodaeth o’r enw ‘Classic Landforms of the Brecon Beacons’ (rhif 13 yng nghyfres Landform Guides y Gymdeithas Ddaearyddol) yn disgrifio geomorffoleg tirffurfiau rhewlifol yn y Mynydd Du, Fforest Fawr a chanolbarth y Bannau. (48tt am £9.95)

Cyhoeddodd y Quaternary Research Association ganllaw 275 tudalen yng ngwanwyn 2007 i gyd-fynd â’u gwibdaith maes pedwar diwrnod yn edrych yn bennaf ar etifeddiaeth yr oes iâ olaf yn Geoparc y Fforest Fawr a Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Bydd ‘Quaternary of the Brecon Beacons: Field Guide’ yn apelio at y rhai sydd â diddordeb academaidd yn y pwnc ac mae ar gael am £20 gan QRA.

Taflenni SWGA

Gallwch lawrlwytho set o daflenni o wefan Grŵp de Cymru Cymdeithas y Daearegwyr.  Maent yn cynnwys dyrnaid o deithiau cerdded gyda thema ddaearegol yn y Geoparc.