Dyffryn Henllys

Llwybr sy’n ymweld â darnau amrywiol o archaeoleg ddiwydiannol.

Cyfeirnod  AO SN 755125

Yn y gorffennol roedd dyffryn Afon Twrch yn gartref i ddiwydiant. Dilynwch yr hen ffordd dramiau i weld simnai ysblennydd, bron yr unig beth sydd ar ôl o Waith Glo’r Henllys. Gerllaw mae odynnau calch sylweddol. Gellir dilyn llwybr hynod syth yr hen ffordd dramiau ar draws y gweunydd uwchben yr adfeilion hyn i chwareli segur.

Daeareg

  • Carbonifferaidd; Haenau Glo a Thywodfaen Twrch

Mapiau

  • OS Landranger 160, Map Explorer OL12
  • Daearegol — dalen BGS 1:50,000: 231 ‘Merthyr Tydfil’

Canllawiau

  • Taflen Geolwybr
  • Llwybr llafar ar gael i’w lawrlwytho.

Cyfleusterau

  • Parcio am ddim ym Mhont Brynhenllys (SN 756126)
  • Mynediad am ddim
  • Hygyrchedd: llwybrau wedi eu gwella’n ddiweddar
  • Panel deongliadol wedi ei osod ger yr odynnau calch
  • Rhybudd: amgylchedd mynyddig y tu hwnt i’r simnai a’r odynnau calch

Cysylltiadau cludiant

  • Yn y car — oddi ar ffordd A4068 Brynaman
  • Ar y trên — mae’r gorsafoedd agosaf yng Nghastell-nedd a Rhydaman — ewch i Traveline Cymru
  • Ar y bws — ewch i Traveline Cymru

Atyniadau eraill gerllaw