Lle crynodd y ddaear a phlygodd y creigiau!
Gwanas garreg ysblennydd yw Bwa Maen sy’n edrych dros ddyfroedd Afon Sychryd wrth ochr Craig Dinas ym Mhontneddfechan. Ers i’r gorchudd drosto o goed ynn, iorwg a llystyfiant arall gael eu tynnu yn 2011, gellir gweld y tŵr mawreddog hwn am beth ydyw – bwa wedi ei blygu’n dynn o Galchfaen Carbonifferaidd.
Gwrandewch ar damaid o lwybr clywedol sy’n ymweld â Sgydau Sychryd a Bwa Maen.
Mae’n hawdd cyrraedd Bwa Maen ar droed o faes parcio Craig Dinas ar ben draw’r ffordd drwy Bontneddfechan. Mae’n addas ar gyfer cadeiriau olwyn a chadeiriau gwthio hefyd, a dim ond gwaith pum munud ydyw ar hyd llinell hen dramffordd ar hyd Afon Sychryd.
Sut aeth Bwa Maen cael ei greu?
Mae dyfroedd tymhestlog Afon Sychryd wedi torri i’r dirwedd am ddegau o filoedd o flynyddoedd i greu’r ceunant hwn a gadael i ni gael cipolwg i galon un o linellau gwendid daearegol mawr Prydain.
Yn wir y gwendid hwn y mae’r afon wedi ei ecsbloetio – roedd cerrig yn chwalu wrth i’r symud ddigwydd drosodd a throsodd ar hyd Ffawtlin Dinas, gyda phob symudiad yn cael ei deimlo ar yr wyneb fel daeargryn. Roedd yn arbennig o fywiog tua 300 miliwn o flynyddoedd yn ôl ond hyd yn oed heddiw ceir ambell i gryndod yn tarddu o rywle ar hyd ‘Cylchfa Ffawtio-plygu Cwm Nedd’, yr enw a roddir ar gasgliad o ffawtiau a phlygiadau daearegol sy’n ymestyn o Fae Abertawe i Henffordd.
Bu’r un sylweddol diwethaf ger Abertawe ar 27 Mehefin 1906; dim ond ychydig wythnosau ar ôl y daeargryn trychinebus a ddinistriodd rannau mawr o San Francisco.