M

ABC CHD DDEFGHI JL LL
MN OP PHR RHST THUW Y

Ma / M.a.

Talfyriad o ‘mega annum’ a ddefnyddir gan ddaearegwyr i ddynodi ‘miliynau o flynyddoedd’ yn ôl. Er enghraifft, mae modd cyfeirio at ddigwyddiad a ddigwyddodd 65Ma yn ôl.

Mesosöig / Mesozoic

Ystyr y term yw ‘bywyd canol’. Mae’r gorgyfnod daearegol hwn yn cynnwys y cyfnodau Triasig, Jwrasig a Chretasig. Mae’n dilyn y Gorgyfnod Palaeosöig ac fe’i dilynir gan y Gorgyfnod Cainosöig.

Mynyddoedd Caledonaidd / Caledonian Mountains

Hen gadwyn o fynyddoedd – a oedd, efallai, cyn uched â Mynyddoedd Himalaia – a gododd yn ystod yr Orogeni Caledonaidd. Mae modd olrhain y gadwyn o Sgandinafia, drwy’r Alban, gogledd Lloegr a gogledd Cymru, a gogledd-ddwyrain yr Unol Daleithiau. Ffurfiwyd creigiau’r Hen Dywodfaen Coch wrth i afonydd erydu’r mynyddoedd a dyddodi trwch o raean, tywod a llaid wrth eu godreon.

Mynyddoedd Farisgaidd / Variscan Mountains

Hen gadwyn o fynyddoedd a gododd ei phen yn ne Prydain yn ystod yr Orogeni Farisgaidd. Y cerigos, tywod a llaid a grëwyd wrth i afonydd erydu’r mynyddoedd hyn fu’n rhannol gyfrifol am ffurfio Tywodfaen Pennant de Cymru.