Mynediad Hawdd

Gwybodaeth ar gyfer ymwelwyr ag anawsterau symudedd


Mae cymeriad Geoparc Byd-eang UNESCO y Fforest Fawr yn gallu bod yn un garw, gyda bryniau a cheunentydd serth, ond nid oes rhaid i chi fod yn afr mynydd i’w mwynhau!  Gall ymwelwyr ag anawsterau symudedd gael blas o’r lle drwy fynd yn uniongyrchol at yr atyniadau hynny â mynediad haws.

Darparwyd ychydig o wybodaeth ynglŷn â hygyrchedd yr holl leoedd a awgrymwyd fel cyrchfannau ar y safle hwn. Dyma rai awgrymiadau ychwanegol.

Ewch i dudalennau Mynediad haws y Parc Cenedlaethol am fwy o wybodaeth ar hygyrchedd y lleoedd hyn a lleoedd eraill yr hoffech ymweld â nhw.