G

ABC CHD DDEFGHI JL LL
MN OP PHR RHST THUW Y

(Y) Garreg Ddiffaith / (The) Farewell Rock

Tywodfaen trwchus yn agos i waelod uned stratigraffig Westffalaidd y Cyfnod Carbonifferaidd Uchaf. Mae’r tywodfaen hwn yn amlwg yn nyffrynnoedd afonydd Mellte, Hepste a Nedd Fechan.

(Tir) Gondwana / Gondwana(land)

Hen arch-gyfandir a ddaeth i fodolaeth tua diwedd y Cyfnod Cyn-Gambriaidd. Roedd yn cynnwys Affrica, De America, Awstralia, Antarctica ac India yr oes bresennol. Wrth i Gondwana wrthdaro â hen gyfandir Lawrasia yn ystod y Cyfnod Carbonifferaidd, ffurfiwyd arch-gyfandir Pangaea.

gorgyfnod / era

Israniad o amser daearegol sy’n llai nag aeon ond yn fwy na chyfnod. Gweler graddfa amser ddaearegol.

Grut Ffair-fach / Ffairfach Grit

Tywodfaen bras-ronynnog a ddyddodwyd yn ystod Epoc Llan-fyrn y Cyfnod Ordofigaidd.

Grut Gwaeledol / Basal Grit

Tywodfaen bras-ronynnog a ddyddodwyd yn ystod uned stratigraffig Namuraidd y Cyfnod Carbonifferaidd.

Grut Melinfaen / Millstone Grit

Tywodfeini bras-ronynnog a ddyddodwyd yn ystod uned stratigraffig Namuraidd y Cyfnod Carbonifferaidd. Mae’r creigiau hyn yn amrywiol iawn eu natur ac mewn mannau maent yn gwartsitau pur iawn (>97% silica [SiO2]).

Grutiau Llwyd / Grey Grits

Tywodfeini bras-ronynnog a ddyddodwyd yn ystod y Cyfnod Defonaidd Uchaf ac sydd, mewn rhai mannau, yn gorchuddio Haenau’r Llwyfandir.

Grŵp Avon / Avon Group

Dilyniant o garreg galch a cherrig llaid ar waelod y Galchfaen Carbonifferaidd. Gelwir y ‘Sial(au) Calchfaen Isaf’ o’r blaen.

Grŵp Calchfaen Pembroke (Penfro) / Pembroke Limestone Group

Enw modern ar gyfer prif Galchfaen Carbonifferaidd De Cymru.

Grŵp Marl Rhaglan / Raglan Marl Group

Yr hen enw ar Ffurfiant Carreg Laid Rhaglan.

Grŵp Marros / Marros Group

Enw swyddogol newydd dilyniant Namuraidd y creigiau Grut Melinfaen yn ne Cymru.

Grŵp y Marl Coch / Red Marl Group

Yr hen enw ar Ffurfiant Carreg Laid Rhaglan.

gwaddodion ffrwdrewlifol / glacio-fluvial deposits

Tywod a graean wedi’u dyddodi gan ddŵr yn deillio o rewlifau a llenni iâ yn ystod yr oesoedd iâ.

Gwelyau Cennen / Cennen Beds

Dilyniant o greigiau a ddyddodwyd ar ddiwedd Epoc Llwydlo’r Cyfnod Silwraidd.

Gwelyau Coed Wenallt / Coed Wenallt Beds

Dilyniant o greigiau a ddyddodwyd yn ystod Epoc Llwydlo’r Cyfnod Silwraidd.

Gwelyau Grammysia / Grammysia Beds

Dilyniant o gerrig llaid yn cynnwys ffosilau, a ddyddodwyd yn ystod Epoc Llwydlo’r Cyfnod Silwraidd.

Gwelyau Llety / Llety Beds

Dilyniant o greigiau a ddyddodwyd yn ystod Epoc Llwydlo’r Cyfnod Silwraidd.

Gwelyau Redhill a Slade / Redhill & Slade Beds

Dilyniant o gerrig llaid a thywodfeini a ddyddodwyd yn ystod Epoc Ashgill y Cyfnod Ordofigaidd.

Gwelyau Senni / Senni Beds

Yr hen enw ar Ffurfiant Senni.

Gwelyau Tresglen / Tresglen Beds

Dilyniant o greigiau a ddyddodwyd yn ystod Epoc Llwydlo’r Cyfnod Silwraidd.

Gwelyau neu Ffurfiant Trichrug / Trichrug Beds or Formation

Dilyniant o dywodfeini a cherrig llaid a ddyddodwyd yn ystod Epoc Llwydlo’r Cyfnod Silwraidd.

Gwregys Orogenig Caledonaidd / Caledonides

Y creigiau a’r adeileddau daearegol sy’n gysylltiedig â’r Orogeni Caledonaidd.

Gwregys Orogenig Farisgaidd / Variscides

Y creigiau a’r adeileddau sy’n gysylltiedig â’r Orogeni Farisgaidd.