Mae Canolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol uwchben pentref Libanus yn fan cychwyn teithiau cerdded amrywiol ar draws Mynydd Illtud gan gynnwys Geolwybr dros y comin sy’n mynd trwy warchodfa natur Traeth Mawr.
Cyfeirnod AO SN 978264 (Canolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol/’Y Ganolfan Fynydd’)
Mae Mynydd Illtud yn ddarn maith o dir comin tonnog sy’n eiddo i Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ac yn cael ei reoli ganddynt. Mae defaid yn pori ar y tir a ddatblygwyd ar haen denau o bridd sy’n gorchuddio creigiau Ffurfiant Llanfocha’r Hen Dywodfaen Coch.
Mae bryngaer Oes Haearn ar frig Twyn y Gaer i ochr ogleddol y comin. Mae tomenni clustog yn addurno ei llethrau. Mae golygfeydd panoramig i’w cael dros Ddyffryn Wysg i’r gogledd tra bod Bannau Brycheiniog yn creu cefndir ysblennydd i’r de.
Mae Traeth Mawr a Thraeth Bach yn gynefinoedd bywyd gwyllt gwlypdir ac mae eu dyddodion mawn yn cynnwys cofnod gwerthfawr o’r hinsawdd yn ne Cymru ers Oes yr Iâ.
Daeareg
- Hen Dywodfaen Coch (Defonaidd); Ffurfiant Llanfocha
- Cwaternaidd; marianau, llwyfandir a sgwriwyd gan yr iâ, dyddodion mawn
Mapiau
- OS Landranger 160, Map Explorer OL12
- Daearegol — dalen BGS 1:50,000: 213 ‘Brecon’
Canllawiau
- Taflen Geolwybr
- Geodaith – dadlwythwch yr ap i’ch ffôn symudol am ddim o’r Google Play neu’r App Store (chwiliwch ‘Geotours’)
Cyfleusterau
- Bwyty, siop, toiledau, arddangosfeydd, man picnic
- Maes parcio talu ac arddangos yn SN 978264
- Mynediad am ddim
Hygyrchedd
- Tir comin; yn wastad yn bennaf; dim rhwystrau ond arwynebedd anghyson.
Cysylltiadau cludiant
- Yn y car — ar hyd isffordd o’r A470 yn Libanus
- Ar y trên — mae’r gorsafoedd agosaf yn Llanymddyfri, Merthyr Tudful a’r Fenni — ewch i Traveline Cymru
- Ar y bws — ewch i Traveline Cymru; mae gwasanaeth X43 yn aros yn Libanus (1.5 milltir)
- Ar feic — gellir eu cyrraedd ar hyd isffyrdd, cilffyrdd a llwybrau ceffylau amrywiol