Creigiau hynaf y Cyfnod Carbonifferaidd
Y creigiau isaf ac felly’r creigiau hynaf o’r cyfnod Carbonifferaidd yw Calchfeini Carbonifferaidd sy’n ffurfio llain 1-3km o led yn rhedeg o’r gorllewin i’r dwyrain ar draws llethrau deheuol Y Mynydd Du a Fforest Fawr. I’r dwyrain, a chyda Chylchfa Ffawtio-plygu Cribarth i’r de, mae llain gul arall o galchfaen sy’n rhedeg o Bontneddfechan drwy Benderyn i Bontsticill. Mae’r calchfaen, sy’n amrywio o ran lliw o wyn, llwyd i ddu, yn cynnwys olion ffosiledig cwrelau a chregyn môr a ddyddodwyd ar waelod moroedd bas rhwng 359 a 328 miliwn o flynyddoedd yn ôl. Mae’r calchfaen yn llawn ceudyllau – mewn gwirionedd, mae’r ardal yn gartref i rai o’r rhwydweithiau ogofâu mwyaf helaeth ym Mhrydain ac, yn wir, yn Ewrop.
Haenau creigiau | Disgrifiad | Trwch yn fras |
Calchfaen Llandyfan | Calchfaen gydag ychydig o siâl a thywodfaen | 0-45 m |
Calchfaen Cil-yr-ychen | calchfaen | 50-100 m |
Gronellfaen Abercriban | calchfaen | 25-30 m |
Siâl Calchfaen Isaf | Siâl gydag ychydig o galchfaen a dolomit | 15-25 m |