Deall

Mae gwerthfawrogiad o dirwedd Geoparc Byd-eang UNESCO y Fforest Fawr yn dod o ddeall ei daeareg a’r cyfan sy’n deillio ohoni.

Mae gan y creigiau gynifer o straeon i’w hadrodd ac mae’r adran hon yn cyflwyno rhai ohonynt i chi. Ond nid dim ond yr hyn sydd o dan y tir sy’n cyfrif – yr hyn a welwch wrth edrych o gwmpas y Geoparc yw ehangder diddiwedd ysblenydd o gefn gwlad sydd â gorffennol, presennol a dyfodol.

Am gyflwyniad i dirwedd ysbrydoledig, gadewch i Ivor Coleman fynd â chi ar daith drwy y Geoparc yn y fideo byr hwn (yn y Saesneg gydag is-deitlau Cymraeg).

Beth am fynd ar wibdaith i ddeall y Geoparc drwy ymuno â ni wrth i ni am fynd dro, yn enwedig yn ystod Gŵyl Geoparc y Fforest Fawr  (i ddathlu Wythnos Geoparciau Ewrop) sy’n cael ei chynnal ar ddiwedd mis Mai/dechrau mis Mehefin bob blwyddyn.

Caiff straeon pobl eu cydblethu â rhai o fyd natur. Mae astudio  archaeoleg yr ardal yn dweud wrthom fod pobl wedi byw yma am o leiaf 7000 o flynyddoedd. Yn ystod y cyfnod hwn, maent wedi dod â newidiadau mawr i dir gwyllt wedi’i ffurfio gan y ddaeareg. Maent wedi cloddio am gerrig a mwynau o’r bryniau hyn ac wedi adeiladu ffyrdd a rheilffyrdd, trefi a phentrefi – yn wir, mae defnydd cerrig mewn adeiladau i’w weld ym mhob tref a phentref yn y Geoparc.

Mae datblygu diwydiannol rhyfeddol yn ne Cymru o’r 18fed ganrif i’r 20fed ganrif wedi cael cryn ddylanwad ar ymylon deheuol y Geoparc.

Mae canrifoedd o ffermio wedi newid golwg naturiol y dirwedd. Fodd bynnag mae’n parhau i fod yn lle i fywyd gwyllt – mae cymysgedd o bobl a natur wedi gadael brithwaith o gynefinoedd ac mae rhai ohonynt bron yn unigryw i’r ardal hon.

Mae hefyd yn ardal sy’n gyfoethog mewn treftadaeth ddiwylliannol – drwy hanes, mae straeon wedi’u cydblethu o amgylch y bryniau hyn – mae ‘Meddygon Myddfai’ a ‘Morwyn y Llynond yn ddwy o’r chwedlau enwocach.

Mae llawer o’r straeon hyn wedi’u hadlewyrchu yn yr enwau lleoedd sy’n addurno’r dirwedd hon –  o’u deall, daw’r dirwedd yn fyw.

O fwrw golwg dros y tudalennau hyn, cewch flas ar Geoparc Byd-eang UNESCO y Fforest Fawr. Fe synnwch faint sydd ynddo!

  • Lawrlwytho Canllaw Geoparc y Fforest Fawr
    (Rhybudd: mae’r ffeil pdf hon yn fawr – 3.2Mb)