Llysgenhadon y Geoparc

Busnesau twristiaeth sy’n llawn brwdfrydedd am y Geoparc yw Llysgenhadon Geoparc y Fforest Fawr. Byddan nhw’n eich helpu i fynd o dan groen y Geoparc drwy eich cyfeirio at leoedd y gallwch eu harchwilio, eu deall a’u mwynhau.

Mae pob un o Lysgenhadon y Geoparc hefyd yn Llysgennad y Parc Cenedlaethol – mae pob un wedi mynychu rhaglen hyfforddi tridiau’r Parc Cenedlaethol ynghyd â rhaglen hyfforddi deuddydd y Geoparc. Bydd gan bob llysgennad wybodaeth arbennig am y lle unigryw hwn a’r ymrwymiad parhaus i’w ddathlu ac i helpu ymwelwyr i fwynhau eu hymweliad i’r eithaf. Mae’r Llysgenhadon hyn wedi cymryd amser i ffwrdd o’u busnesau er mwyn sicrhau eu bod yn cynnig gwybodaeth a gwasanaeth rhagorol.

Lansiwyd cynllun Llysgenhadon Geoparc y Fforest Fawr yn hydref 2012. Enillwyd tystysgrifau gan y saith Llysgennad Geoparc cyntaf yng ngwanwyn 2013. Mae dros 100 wedi cael eu hyfforddi – mae’r rhai sy’n cynnal eu statws ar hyn o bryd wedi’u rhestru isod gyda chysylltiadau â’u busnesau. Yn ogystal mae nifer cynyddol o Lysgenhadon Awyr Dywyll – mae nifer cynyddol o Lysgenhadon yn gallu siarad yn wybodus am y ddaear dan eu traed a’r awyr uwchben!

Llysgenhadon:

Chwiliwch am logos Llysgenhadon y Geoparc ar waliau, ffenestri a gwefannau busnesau o gwmpas Geoparc Byd-eang UNESCO y Fforest Fawr a’r ardal ehangach. Bellach mae gennym dros 100 o Lysgenhadon Geoparc ac rydym yn gobeithio gallu cynnal cyrsiau pellach i fusnesau yn 2022. Cewch fwy o wybodaeth gan Alan Bowring, Swyddog Datblygu’r Geoparc.

*Nodwch os gwelwch yn dda mai rhan o rôl Llysgenhadon y Geoparc yw hyrwyddo dealltwriaeth a mwynhad Geoparc Byd-eang UNESCO y Fforest Fawr, ond nid ydynt wedi cael eu contractio i wneud hynny gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog na chan reolwyr Geoparc Byd-eang UNESCO y Fforest Fawr ac, nid yw eu safbwyntiau o reidrwydd yn cynrychioli nac yn adlewyrchu safbwyntiau Awdurdod y Parc Cenedlaethol na rheolwyr Geoparc Byd-eang UNESCO y Fforest Fawr.