(145 i 66 miliwn o flynyddoedd yn ôl)
Ni chredir bod unrhyw greigiau o’r oes hon wedi’u cadw o fewn Geoparc y Fforest Fawr. Yn ystod y cyfnod Cretasaidd, credir bod rhannau o’r ardal wedi gorwedd o dan lefel y môr a bod sialc wedi’i dyddodi ar draws pob un o’r copaon uchaf ond un. Fodd bynnag, mae erydu wedi cael gwared ar unrhyw fymryn o’r sialc. Roedd ‘Môr y Sialc’ yn ymestyn ar draws llawer o ogledd Ewrop – dangosir ei chyn bresenoldeb gan y tiroedd sialc a roddai gymeriad i dde a dwyrain Lloegr ac i’r cyfandir cyfagos.
Yn ystod y cyfnod hwn, dechreuodd Môr yr Iwerydd, fel y mae heddiw, ymledu ymhell i’r gorllewin wrth i Ogledd America ac yna Yr Ynys Las, ymrannu oddi wrth ogledd Ewrop.
Beth sydd mewn enw?
Mae enw’r cyfnod hwn yn dod o’r gair Lladin ‘creta’ sy’n golygu ‘sialc’ – y graig sy’n nodweddu’r cyfnod hwn yn Lloegr a llawer o Ewrop.