Cacen greigiau haenog, craciog a chrychlyd a ffurfiwyd dros mwy na 470 miliwn o flynyddoedd. Tirwedd wedi’i cherflunio gan rew ac wedyn ei thrawsnewid gan ddyn – yn dyst i enedigaeth y Chwyldro Diwydiannol. Dim ond ychydig o’n straeon yw’r rhain . . . . .
Ystyriwch osgoi smotiau poblogaidd fel Storey Arms ar adegau prysur – mae yna lawer o leoedd eraill i’w darganfod yn yr ardal hon! Darganfyddwch sut rydym yn ymateb i’r her o ddiogelu Bro’r Sgydau (ffilm fer yn Saesneg).
- Ewch â’ch sbwriel adref!
- Parchwch gymunedau lleol os gwelwch yn dda.
- Peidiwch ag aflonyddu ar fywyd.
- Dilynwch y Cod Cefn Gwlad.
Map Geoparc syml
(C) cyfranwyr OpenStreetMap 2024; deunydd Arolwg Ordnans sydd allan o hawlfraint
Mae’r Geoparc Byd-eang UNESCO y Fforest Fawr yn ystod o ucheldir a gafodd ei gynnwys ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog pan gafodd ei sefydlu ym 1957. Mae’r ucheldiroedd hyn wrth galon y Geoparc y Fforest Fawr er ei fod yn ymestyn y tu hwnt iddynt i gynnwys llawer o gefn gwlad o’u hamgylch. Yn wir mae 300 milltir sgwâr / 763 cilometr sgwâr Geoparc yn cynnwys mynyddoedd a rhostir, coedwigoedd a dolydd, trefi a phentrefi, llynnoedd ac afonydd a llawer mwy hefyd. Edrychwch ar y map hwn ohono.
Sefydlwyd Geoparc y Fforest Fawr ym mis Hydref 2005. Rhan o’r Rhywdwaith Geoparciau Ewropeaidd am 19 mlynedd, mae Geoparc y Fforest Fawr bellach yn un o 213 aelodau Rhwydwaith Geoparciau Byd-eang UNESCO a sefydlwyd yn ffurfiol ar 17 Tachwedd 2015, ac wedi lledaenu ar draws 48 o wledydd ledled y byd.
- Dealltwriaeth – gwybodaeth am ddaeareg, bywyd gwyllt, archeoleg, chwedlau, a hanes yr ardal a llawer mwyyn rhoi gwybodaeth i chi am bob math o bynciau.
- Mwynhau – syniadau ar gyfer lleoedd i’w gweld a phethau i’w gwneud pan fyddwch yn ymweld â’r Geoparc.
- Gofalu – sut mae’r ardal yn cael ei diogelu a sut gallwch chi helpu.
- Addysg – ystafell ddosbarth awyr agored o’r radd flaenaf yw’r Geoparc.
- Beth sydd ymlaen – manylion am deithiau cerdded a sgyrsiau a digwyddiadau eraill sydd ar ddod.
Pan fyddwch yn gwybod ychydig yn fwy byddwch yn barod i ymweld â ni. Nawr, mae dod yma yn rhwydd!
Ceir gwybodaeth am y Geoparc yn Ganolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol (‘y Ganolfan Fynyddig’) yn Libanus ger Aberhonddu. Byddwn yn agor ‘Man Darganfod Geoparc’ newydd ym Mharc Gwledig Craig-y-nos yng Nghwm Tawe uchaf yn 2021.
Ffotograffiaeth © BBNPA/Arolwg Ddaearegol Prydain/Alan Bowring
Diweddarwyd y dudalen hon ddiwethaf ar 9 Ebrill 2024.