ABC CHD DDEFGHI JL LL
MN OP PHR RHST THUW Y
F
Farlowaidd / Farlovian
Enw un o unedau stratigraffig lleol y Defonaidd Uchaf. Dyddodwyd Haenau’r Llwyfandir yn ystod y cyfnod hwn. Gweler siart amser Defonaidd.
FF
Ffawt Sawdde / Sawdde Fault
Ffawt mawr y gellir ei olrhain o’r gogledd-ddwyrain i’r de-orllewin drwy ran isaf ceunant Sawdde. Mae’n diffinio Gwregys Serth Myddfai.
Flandriaidd / Flandrian
Yr 11,500 o flynyddoedd calendr diwethaf, sef y cyfnod ers diwedd yr Oes Iâ ddiwethaf. Adwaenir y Fflandriaidd hefyd fel y ‘cyfnod ôl-rewlifol’. Gweler siart amser y Cwaternaidd.
Ffurfiant Aberedw / Aberedw Formation
Dilyniant o dywodfeini a cherrig silt a ddyddodwyd yn ystod epoc Llwydlo’r Cyfnod Silwraidd.
Ffurfiant Cae’r Mynach / Cae’r Mynach Formation
Dilyniant o dywodfeini, cerrig silt a cherrig llaid a ddyddodwyd yn ystod rhan uchaf Epoc Llwydlo’r Cyfnod Silwraidd.
Ffurfiant Calchfaen Dowlais / Dowlais Limestone Formation
Rhan o Grŵp Calchfaen Pembroke (Penfro) (a oedd gynt yn ‘brif galchfaen’) Calchfaen Carbonifferaidd yn Ne Cymru.
Ffurfiant Calchfaen Oxwich Head / Oxwich Head Limestone Formation
Dilyniant o greigiau sy’n ffurfio rhan o Grŵp Calchfaen Pembroke (Penfro) y Calchfaen Carbonifferaidd. Wedi’i adnabod o’r blaen yn yr ardal hon fel Calchfaen Penwyllt.
Ffurfiant Carreg Laid Cwmyniscoy / Cwmyniscoy Mudstone Formation
Creig yn deillio fel lime-mwd ac yn ffurfio rhan o Grŵp Avon y Galchfaen Carbonifferaidd.
Ffurfiant Carreg Laid Rhaglan / Raglan Mudstone Formation
Dilyniant trwchus (hyd at 1,100m) o gerrig llaid a cherrig silt a ddyddodwyd yn ystod Epoc Priodoli’r Cyfnod Silwraidd.
Ffurfiant Cerrig / Cerig Formation
Set o gerrig llaid yr Oes Telychaidd o fewn y Cyfnod Silwraidd
Ffurfiant Cerrig Llaid Temeside / Temeside Mudstone Formation
Cerrig llaid a cherrig silt a ddyddodwyd yn gynnar yn ystod Epoc Pridoli’r Cyfnod Silwraidd Uchaf.
Ffurfiant Cwm Graig Ddu / Cwm Craig Ddu Formation
Carreg laid a ddyddodwyd yn ystod Epoc Llwydlo’r Cyfnod Silwraidd.
Ffurfiant Halfway Farm / Halfway Farm Formation
Dilyniant o gerrig llaid a ddyddodwyd yn ystod Epoc Gweunllwg y Cyfnod Silwraidd.
Ffurfiant Ffibiwa / Fibua Formation
Cerrig llaid a cherrig silt a ddyddodwyd yn ystod Epoc Llwydlo’r Cyfnod Silwraidd.
Ffurfiant Hafod Fawr / Hafod Fawr Formation
Dilyniant o dywodfeini, cerrig silt a cherrig llaid a ddyddodwyd yn ystod Epoc Llwydlo’r Cyfnod Silwraidd. Mae’n cynnwys Aelod Cwar Glas ac ynddo nifer o welyau trwchus o dywodfaen.
Ffurfiant Irfon / Irfon Formation
Dilyniant o gerrig llaid a cherrig silt a ddyddodwyd yn ystod Epoc Llwydlo’r Cyfnod Silwraidd.
Ffurfiant Llanelli / Llanelly Formation
Calchfaen dolomitig sydd i’w gael rhwng Öolit Abercriban a Chalchfaen Dowlais yn y prif Galchfaen Carbonifferaidd.
Ffurfiant Llanfocha / St Maughans Formation
Dilyniant trwchus (hyd at 850m) o gerrig llaid a cherrig silt a ddyddodwyd yn ystod y Cyfnod Defonaidd Isaf.
Ffurfiant Llangamarch / Llangammarch Formation
Set o gerrig llaid Epoc Gweunllwg y Cyfnod Silwraidd.
Ffurfiant Pontarllechau / Pontarllechau Formation
Dilyniant o dywodfeini tenau, a ddyddodwyd tua diwedd y Cyfnod Silwraidd, yn agos i waelod yr Hen Dywodfaen Coch.
Ffurfiant Senni / Senni Formation
Dilyniant o dywodfeini a ddyddodwyd yn ystod y Cyfnod Defonaidd cynnar.
Ffurfiant Tirabad / Tirabad Formation
Dilyniant o gerrig llaid a ddyddodwyd yn ystod Epoc Gweunllwg y Cyfnod Silwraidd.
Ffurfiant Tywodfaen Ffinannt / Finnant Sandstone Formation
Dilyniant o dywodfeini a cherrig llaid a ddyddodwyd ar ddiwedd Epoc Gweunllwg y Cyfnod Silwraidd.
Ffurfiant Tywodfaen Mynydd Myddfai / Mynydd Myddfai Sandstone Formation
Dilyniant o dywodfeini – rhai ohonynt yn amryfaenog – a ddyddodwyd yn ystod Epoc Llwydlo’r Cyfnod Silwraidd.
Ffurfiant Tywodfaen Sawdde / Sawdde Sandstone Formation
Dilyniant o gerrig llaid, cerrig silt a thywodfeini a ddyddodwyd yn ystod Epoc Gweunllwg y Cyfnod Silwraidd.
Ffurfiant y Cerrig Cochion / Brownstones Formation
Dilyniant trwchus (hyd at 350m) o dywodfeini yn bennaf a ddyddodwyd yn ystod y Cyfnod Defonaidd Isaf.
Ffurfiant y Tywodfaen Coch / Red Sandstone Formation
Yr hen enw ar Ffurfiannau’r Cerrig Cochion a Senni a rhan uchaf Ffurfiant Llanfocha.