48OC – 399OC
Silwriaid ac Ordoficiaid
Pan gyrhaeddodd y Rhufeiniaid ganolbarth Cymru roedd yn rhaid iddynt wynebu dau lwyth – y Silwriaid i’r de a’r Ordoficiaid i’r gogledd. Byddai hi bron yn ddwy fil o flynyddoedd cyn y deuai’r llwythau hynny’n enwog drwy’r byd wrth iddynt roi’u henwau i ddau gyfnod mawr o hanes daearegol – yr Ordoficaidd a’r Silwraidd.
Y Silwriaid oedd yn byw yn ardal Geoparc y Fforest Fawr – llwyth Celtaidd a ddisgrifir yn yr hanes a gofnodwyd gan y Cadfridog Tacitus, Julius Agricola, mab yng nghyfraith yr Ymherawdr Claudius. Roedd wedi cael y dasg o heddychu trigolion Cymru a’r Alban a llwyddodd i orchfygu’r Silwriaid yn 70OC.
Roedd goresgyniad y Rhufeiniaid yn cyd-daro â’r hinsawdd well a oedd wedi cychwyn yn yr Oes Haearn ddiweddar. Roedd y tywydd cyffredinol gynhesach yn rhoi cyfnod o fywyd newydd i amaethu yn ardaloedd yr ucheldir, gan gynnwys tyfu cnydau grawn.
Ceyrydd a ffyrdd
Mae archaeolegwyr wedi gwneud arolwg o ddau wersyll dros dro Rhufeinig yn Y Pigwn a godwyd ar frig Mynydd Bach Trecastell (Cyfeirnod grid OS: SN 827312). Mae un gwersyll mewn gwirionedd wedi ei arosod ar ben y llall. Adeiladwyd trydydd gwersyll llawer mwy i’r de ar Fynydd y Llan yn Arhosfa Garreg Llwyd (Cyfeirnod grid OS: SN 802262). Adeiladwyd y gwersylloedd iseldir hyn yn ystod ymgyrchoedd yr haf gan lengfilwyr a milwyr ategol y Rhufeiniaid. Roeddent yn cynnwys mangre wedi ei chau gan gloddiau pridd a thyweirch gyda ffos o’u blaenau gyda stanciau wedi’u gosod yn y clawdd i greu palisâd. Roedd y milwyr yn codi pebyll lledr trymion y tu mewn i’r llociau amddiffynol hyn.
Yn dilyn goresgyn Cymru erbyn diwedd y 70au OC roedd rhwydwaith o geyrydd mwy parhaol yn cael eu cysylltu gan rwydwaith o ffyrdd bob tywydd wedi eu hadeiladu’n bwrpasol. Un enghraifft yw’r ffordd a gysylltai gaer bum erw bwysig Y Gaer i’r gorllewin o Aberhonddu (Cyfeirnod grid OS: SO 003297) (wedi ei meddiannu hyd at tua 300OC) â’r gaer yn Llanymddyfri. Roedd Caer Aberhonddu wrth galon rhwydwaith o ffyrdd Rhufeinig a belydrai at allan i Gobannivn (Y Fenni) a Magnis (Kenchester) yn y dwyrain, Alabvm (Llanymddyfri) a Maridvnvm Demetarvm (Caerfyrddin) yn y gorllewin, Castell Collen (ger Llandrindod) i’r gogledd a Nidvm (Castell-nedd) a Chaerdydd yn y de.
Fel gyda llawer o ffyrdd y Rhufeiniaid yng Nghymru, mae’r ffordd i Nidvm yn cael ei hadnabod fel Sarn Helen. Mae hi’n torri drwy ganol y Geoparc wrth iddi groesi Mynydd Illtud, mynd wrth droed Fan Frynych a chyrraedd Cwm Llia. Wedi croesi Afon Nedd Fechan mae’n mynd heibio i Goed y Rhaeadr ar ei ffordd i Fanwen ar ymyl ddeheuol y Geoparc. Gellir dilyn y rhan fwyaf ohoni o hyd ar droed, ar feic mynydd neu ar gefn ceffyl.
Mae Maen Madog yn SN 918157 yn garreg goffa 3m o uchder wrth ochr Sarn Helen yng Nghoed y Rhaeadr i’r gogledd o Ystradfellte. Credir ei bod o ddiwedd oes y Rhufeiniaid neu o’r cyfnod yn syth ar eu holau.
Gweithgaredd cloddio
Rydym yn gwybod i’r Rhufeiniaid gloddio am aur yn Nolaucothi rai milltiroedd i’r gogledd orllewin o’r Geoparc. Mae’r safle bellach yng ngofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Nid yw’n hysbys faint o weithgaredd economaidd a fu gan y Rhufeiniaid yn y Geoparc, gweithgaredd a allai fod wedi cynnwys cloddio am fwynau a cherrig adeiladu.