Coedwigaeth

Gall enw’r Geoparc ar yr olwg gyntaf awgrymu ei bod yn ardal goediog. Mewn gwirionedd daw ei enw oddi wrth y bloc o ucheldir sydd rhwng y Mynydd Du yn y gorllewin a Bannau Brycheiniog yn y dwyrain sydd wedi cael ei adnabod am ganrifoedd fel Fforest Fawr.

Neilltuwyd Fforest Fawr neu ‘Fforest Fawr Brycheiniog’ fel Coedwig Arglwyddiaeth Brycheiniog yn niwedd yr 11g. Yn y cyd-destun hwn ystyr ‘fforest’ yw tir wedi ei neilltuo ar gyfer hela, ac nid oes a wnelo ddim â faint o orchudd coed sydd yna. Roedd yr ardal yr oedd ‘cyfraith y fforest’ mewn grym ynddi yn gyffredinol wedi ei chyfyngu i galon ucheldir yr hyn bellach yw’r Geoparc.

Wedi eu gwasgaru ar draws y tir isel yn y Geoparc y mae coetiroedd bychain di-rif, fel arfer o goed collddail ond weithiau’n gymysg gyda phlanhigfeydd conwydd. Ceir llawer ar lethrau mwy serth y cymoedd sydd wedi bod yn rhy serth i’r aradr ac yn aml yn lleoedd lle mae’r pridd deneuaf. Ychydig o werth masnachol sydd i’r rhan fwyaf o’r coetiroedd hyn heddiw ond maent yn arwyddocaol dros ben yn y cyfraniad a wnânt i’r dirwedd.

Conwydd

Mae nifer o flociau mwy o blanhigfeydd conwydd wedi eu sefydlu yn yr ucheldiroedd, yn enwedig o amgylch Cronfa Ddŵr Wysg ac yng Nghoedwig Glasfynydd, ar hyd ymyl ddeheuol y Geoparc rhwng  Brynaman a Merthyr Tudful ac yn ymestyn i fyny cymoedd Taf Fawr a Thaf Fechan.

Sefydlwyd llawer ohonynt gan y Comisiwn Coedwigaeth wedi sefydlu hwnnw ym 1919 yn dilyn y Rhyfel Byd Cyntaf gyda’r genhadaeth i sicrhau adnodd pren wrth gefn cenedlaethol. Mae’r rhai yng nghymoedd Taf yn sefyll ar diroedd casglu’r cronfeydd niferus sy’n gorchuddio eu lloriau ac yn dal ym mherchnogaeth Dŵr Cymru.

Golyga newid blaenoriaethau fod coedwigoedd bellach yn cael eu rheoli’n bennaf ar gyfer hamdden. Maent bellach yn cynnig cyfleoedd cerdded, seiclo a marchogaeth ceffylau. Trosglwyddwyd cyfrifoldeb am yr holl goedwigoedd hynny oedd yn eiddo i Gomisiwn Coedwigaeth Cymru  neu a reolid ganddo i’w olynydd, Cyfoeth Naturiol Cymru, ym mis Ebrill 2013.