Taith Taf (rhannau’r Geoparc)

Mae’r llwybr llawn yn 55 milltir / 93km ac yn ymestyn o Gaerdydd i Aberhonddu. O fewn y Geoparc mae un gangen o’r llwybr yn mynd drwy Gwm Taf a Glyn Tarell tra bod y llall yn mynd drwy Gwm Taf Fechan. Mae’r ddau lwybr wedi’u marcio’n glir ar fapiau OS Explorer a Landranger.

  • Y ddolen ddwyreiniol: Cyfeirnod AO: SO 030079 (Cefncoedycymer) i SO 049167(Torpantau)
  • Y ddolen orllewinol: SO 030079 (Cefncoedycymer) i SO 045285 (Llan-faes, Aberhonddu)

Mae taflen ar gael am y ddolen ddwyreiniol i fyny cwm Taf Fechan drwy Dorpantau (beicwyr a cherddwyr) ond nid ar y ddolen orllewinol i fyny cwm Taf Fawr drwy Storey Arms (cerddwyr yn unig).

Gallwch gerdded neu feicio ar ei hyd, ond byddwch yn mwynhau’r dirwedd ddramatig mae’r llwybr yn troelli drwyddi, a bod yn sicr o raddiant graddol. Mae rhannau’r Geoparc yn rhedeg o Gefn Coed-y-cymer ar ochr ogleddol Merthyr Tudful i’r gogledd i Lanfaes yn Aberhonddu ac i Dorpantau yng Nghoedwig Taf Fechan.

Daeareg

  • Cwaternaidd: rhewlifol marianau ac ati
  • Carbonifferaidd: Haenau Glo, Tywodfaen Twrch, Calchfaen,
  • Defonaidd: Gwelyau llwyfandir, Grutiau Llwyd, Cerrig Cochion, Gwelyau Senni a Ffurfiant Llanfocha

Mapiau

  • OS Landranger 160, Map Explorer OL12
  • Daearegol — dalenni BGS 1:50,000 : 213 ‘Brecon’ a 231 ‘Merthyr Tydfil’

Canllawiau

  • Taflen ar gael

Cyfleusterau

  • Taflen ar gael
  • Mynediad am ddim

Hygyrchedd

  • Newidiol; adrannau byr mewn amgylchedd mynyddig — cymerwch ofal!

Cysylltiadau cludiant

  • Yn y car — cysylltiadau amrywiol
  • Ar y trên — mae’r gorsafoedd agosaf yn Llanymddyfri i’r gorllewin, Y Fenni i’r dwyrain a Merthyr Tudful i’r de — ewch i Traveline Cymru
  • Ar y bws — ewch i Traveline Cymru
  • Ar feic — mae NCN8 yn dilyn dolen ddwyreiniol Taith Taf

Atyniadau eraill gerllaw