Taith gerdded i gwm rhewlifol traddodiadol yn cynnwys Llyn Cwm Llwch o dan Gorn Du a Phen y Fan.
Cyfeirnod AO SO 002220 (llyn)
Mae’r ddau fryn a’r cribyn sy’n eu pontio, a alwyd yn Gadair Arthur ar un cyfnod, wedi eu hadeiladu ar ffurfiant Cerrig Cochion sy’n eistedd ar ben creigiau ffurfiant Senni gyda thywodfaen y gwelyau llwyfandir, sy’n llawer mwy caled i’w dreulio, ar y brig. Mae llethrau serth trawiadol yn syrthio o’r copaon awyrog i’r llyn sy’n gorwedd yn y pant a gerfiwyd gan y rhewlif.
Daeareg
- Hen Dywodfaen Coch (Defonaidd); gwelyau Senni, Ffurfiant Llanfocha, Gwelyau llwyfandir
- Cwaternaidd; cwm rhewlifol a llyn, marian
Mapiau
- OS Landranger 160, Map Explorer OL12
- Daearegol — dalen BGS 1:50,000: 213 ‘Brecon’
Canllaw
- Mae’r daith gerdded yn ymddangos mewn nifer o arweinlyfrau
Cyfleusterau
- Maes parcio anffurfiol am ddim mewn cae o eiddo’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar ddiwedd ffordd darmac yn SO 006244
- Mynediad am ddim
Hygyrchedd
- Creigiau’n bennaf, llwybrau anghyson; 300m / 1000’ o gwymp i’r llyn; gwlad agored tu hwnt i’r hanner ffordd; amgylchedd mynyddig — cymerwch ofal!
Cysylltiadau cludiant
- Yn y car — ar hyd isffyrdd o Aberhonddu neu Libanus
- Ar y trên — mae’r gorsafoedd agosaf yn Llanymddyfri, Merthyr Tudful a’r Fenni — ewch i Traveline Cymru
- Ar y bws — Gwasanaethau X17 ac X43 — mae’r arhosfan agosaf ar yr A470 yn Libanus — ewch i Traveline Cymru hefyd