Caiff y Cyfnod Defonaidd, y cyfeirir ato yn aml fel yr ‘Hen Dywodfaen Coch’, ei rannu yn dair rhan. Roedd yn parhau o 419 i 359 miliwn o flynyddoedd yn ôl.
Yn wir, mae ‘ORS’, fel y cyfeirir ato yn aml, yn enw Saesneg anffurfiol ar y creigiau ar gyfer y cyfnod yng Nghymru a llawer o’r DU ond mae hefyd yn cwmpasu rhai o greigiau ieuengaf y cyfnod blaenorol – y Silwraidd – felly nid yw ‘Defonaidd’ a ‘Hen Dywodfaen Coch’ yn cyfateb i’w gilydd yn union.
Y Cyfnod Defonaidd
Roedd y cyfnod hwn yn ymestyn dros 60 miliwn o flynyddoedd. Caiff ei rannu yn dair cyfres/tri epoc sy’n cael eu hisrannu ymhellach yn gyfnodau/oesoedd amrywiol. Dim ond y cyfnodau hynny sydd mewn print trwm sydd wedi’u cynrychioli yng nghreigiau Geoparc y Fforest Fawr.
- Epoc Defonaidd Hwyr (383Ma – 359Ma)
- Cyfnod Famenniaidd (372Ma – 359Ma)
- Cyfnod Frasniaidd (383Ma – 372Ma)
- Epoc Defonaidd Canol (393Ma – 383Ma)
- Cyfnod Givetiaidd (388Ma – 383Ma)
- Cyfnod Eifelian (393Ma – 388Ma)
- Epoc Defonaidd Cynnar (419Ma – 393Ma)
- Cyfnod Emsiaidd (408Ma – 393Ma)
- Cyfnod Pragiaidd (411Ma – 408Ma)
- Cyfnod Lochkoviaidd (419Ma – 411Ma)
Ma = miliwn o flynyddoedd (yn ôl)