Adnoddau a hyfforddiant

Llyfrau, mapiau a phethau eraill i edrych arnynt, cyfleoedd hyfforddi ar gyfer busnesau…

Llwybrau Llafar

Ewch yma i gael cyfle i lawrlwytho amrywiaeth o lwybrau llafar a phodlediadau ym Mro Henllys ac o gwmpas Bro’r Sgydau.

Arddangosiadau ac Arddangosfeydd

Canolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol

Dych chi’n gallu prynu mapiau Geoparc, taflenni ayyb yma.

Canolfan y Mynydd Du

Agorodd arddangosfa newydd – “Calch” – ym mis Mawrth 2011 mewn canolfan ynghanol Brynaman. Mae’n dangos ffotograffau lliwgar o’r awyr o’r ardal o gwmpas.

Fideo

Mae’r artist Sandra Masterson wedi gweithio gyda’r Geoparc ar nifer o achlysuron. Gallwch edrych ar ei darn ‘You, Me and Peat’ ar YouTube – mae’r ffilm  fer hon yn cymharu bywyd yn y dref a materion cynaliadwyedd yn ein hucheldiroedd. Beth am ymweld â’i blog ar y cydweithio hwn rhwng y celfyddydau/gwyddoniaeth yn ardal Aberhonddu? Mae gwaith blaenorol Sandra yn cynnwys y Geoteras ym Mharc Gwledig Craig-y-nos ac arddangosfa, ‘Space to Place’ a ddenodd niferoedd mawr o ymwelwyr i Amgueddfa ac Oriel Gelf Brycheiniog y llynedd.

Hyfforddiant

Cynhelir nifer o ddiwrnodau hyfforddi bob blwyddyn ar gyfer busnesau yn y Parc Cenedlaethol mewn partneriaeth â Medrwn. Fel arfer maen nhw am ddim i fusnesau twristiaeth lleol.

Cynllun Llysgennad Bannau Brycheiniog

Cafodd ’Cynllun Lysgennad’ ei ddatblygu ar gyfer Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Fel y byddech yn disgwyl, mae nifer o elfennau’n gysylltiedig â’r Geoparc a’i atyniadau. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan y Parc Cenedlaethol.

Cynllun Llysgennad Geoparc y Fforest Fawr

Mae’r  gweithredwyr twristiaeth sydd wedi eu cofrestru fel Llysgenhadon Parc Cenedlaethol, yn gymwys i gymryd  hyfforddiant Llysgennad Geoparc y Fforest Fawr. Enillwyd y Tystysgrifau Llysgennad Geoparc cyntaf  gan y saith bobl busnes twristiaeth  yn gynnar yn 2013 i fwy na 90 yn 2016. Mae mwy o hyfforddiant ar y gweill  yn 2024 – cysylltwch â Swyddog Datblygu’r Geoparc am ragor o wybodaeth.

Cynllun Llysgenhadon Awyr Dywyll

Mae nifer o Lysgenhadon y Parc Cenedlaethol a’r Geoparc hefyd yn Llysgenhadon Awyr Dywyll, sydd wedi dysgu am ogoniant yr awyr uwchben Gwarchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol gyntaf Cymru. Mae’r Warchodfa yn ymestyn dros y Parc Cenedlaethol i gyd ond mae’r awyr dywyllaf yn y Geoparc, yn y gorllewin.

Mapiau

‘Mae llun yn peintio mil o eiriau’ — gellir dweud yr un peth am fapiau sydd, yn y bôn, yn llun o’r dirwedd.  Mae ystod o fapiau ar gael sy’n cynnwys Geoparc y Fforest Fawr .

Mapiau cyffredinol

Bydd y rhan fwyaf o bobl yn gyfarwydd â mapiau’r Arolwg Ordnans – yr allwedd i fforio cefn gwlad ar droed neu fel arall.  Mae gwneuthurwyr mapiau eraill yn cynnig mapiau topograffig tebyg hefyd, ac mewn graddfeydd amrywiol. Dysgwch beth sydd ar gael.

Mapiau Hanesyddol

Gall edrych ar hen fap ddatgelu pa newidiadau sydd wedi digwydd mewn ardal dros 50 neu 100 o flynyddoedd neu fwy – mae’n hynod o ddiddorol gweld rheilffyrdd yn dod ac yn mynd, chwareli a chronfeydd dŵr yn ymddangos a threfi a phentrefi’n ehangu.  Prynwch un ail-law, edrychwch ar gopi mewn llyfrgell neu prynwch gopi modern o hen fap. Gweld beth sydd ar gael.

Mapiau daearegol

Beth yw’r garreg honno?  Pam mae’r cymoedd hynny mewn llinell?  Yn aml gellir ateb cwestiynau fel y rhain gyda map sy’n dangos y ddaeareg waelodol.  Bu Arolwg Daearegol Prydain yn cyhoeddi mapiau ers dros 150 o flynyddoedd — edrychwch i weld beth sydd ganddynt ar gyfer yr ardal hon.

Llyfrau a thaflenni

Canllawiau daeareg

Ychydig o lyfrau, llyfrynnau a thaflenni sy’n esbonio beth sy’n mynd ymlaen! Edrychwch ar y rhestr canllawiau daeareg hon — dewch o hyd i’r un sy’n bodloni eich anghenion.