Mae’r safle hon wedi bod yn arbennig o brysur yn ddiweddar. Beth am archwilio rhan arall o’r Geoparc neu’r Parc Cenedlaethol ehangach ar hyn o bryd?
Un o’r pyrth mwyaf i ogof yng Nghymru lle mae Afon Mellte yn cael ei llyncu’n gyfan gwbl.
Cyfeirnod AO SN 928124 (maes parcio a chanolfan wybodaeth)
Gellir gweld yr ogof wrth ddilyn taith gerdded fer o’r maes parcio. Mae taith gerdded bum munud ger hen wely’r afon yn arwain at y mynediad isaf ger ‘Y Pwll Glas’.
Daeareg
- Calchfaen Carbonifferaidd
Mapiau
- OS Landranger 160, Map Explorer OL12
- Daearegol — dalen BGS 1:50,000: 231 ‘Merthyr Tydfil’
Canllawiau
- Cyhoeddiadau amrywiol
Cyfleusterau
- Canolfan Wybodaeth Cwm Porth
- Maes parcio talu ac arddangos
- Mynediad am ddim
Hygyrchedd
- Grisiau creigiog serth i lawr i’r fynedfa, gall fod yn llithrig
Cysylltiadau cludiant
- Yn y car — ar isffyrdd o Ystradfellte
- Ar y trên — mae’r gorsafoedd agosaf yng Nghastell-nedd a Merthyr Tudful