Parc gwledig Craig-y-nos a Phenwyllt
Dechreuwch wella’ch adnabyddiaeth o Gwm Tawe drwy ymweld â Pharc Gwledig Craig-y-nos. Dechreuon ni ddatblygu hwb Geoparc newydd yma yn 2020. Mwynhewch y golegfeydd arbennig ar draws y dyffryn oddi ar ein Geo-teras tu allan i’r caffi. Mae llawer o straeon Geoparc yn cychwyn yma!
Ar draws y dyffryn, gallwch fwynhau awyrgylch Penwyllt – tramffyrdd segur, odynau calch a hen waith brics gerllaw Ogof Ffynnon Ddu sy’n Warchodfa Natur Genedlaethol. Mae’r warchodfa’n amddiffyn calchbalmentydd ar y wyneb, ac ogof ddyfnaf Prydain (274.5m) oddi tanodd. Drwy’r ardal hon, mae Ffordd y Bannau yn dirwyn ei llwybr o’r Mynydd Du anghysbell a gwyllt i fryniau gwahanol iawn Fforest Fawr. Heb fod ymhell, mae crib arw Cribarth gyda’i chreigiau calchfaen, hen chwareli a thramffyrdd.
Os oes gennych awr neu lai:
- Mwynhewch y caffi, stwdios crefft a chael tro o gwmpas y Parc Gwledig.
- Ewch am dro byr i’r Warchodfa Natur Genedlaethol Ogof Ffynnon Ddu ar hyd hen Dramffordd Fforest Brycheiniog.
Os oes gennych hanner diwrnod (2-4 awr):
- Dilywnch Llwybr Penwyllt ar y cerdyn o’r parc gwledig. Gwrando ar y podlediad. Dadlwythwch a dilynwch y Geodaith.
- Dilynwch Geolwybr Sgwd Henrhyd neu llwybr sain i alwr i Afon Tawe, neu dro ‘Llinellau yn y Tirlun’ ar hyd Sarn Elen a hen dramffordd.
- Archwiliwch Cribarth – mynydd calchfaen anyhgoel – gan ddefnyddio’r llwybr ‘Crib ac Afon‘. Dadlwythwch a dilynwch y Geodaith.
Os oes gennych ddiwrnod llawn (5-8 awr):
- Dilynwch Ffordd y Bannau tua’r dwyrain o Benwyllt drwy warchodfa Natur Genedlaethol Ogof Ffynnon Ddu tuag at Ystradfellte..
- Gwrando ar y podlediad wrth gerdded i Waun Fignen Felen.