Tirlithriad!

Mae dwsinau o dirlithriadau yn graith ar fryniau Geoparc y Fforest Fawr – mae’r dudalen hon yn esbonio pam y digwyddasant a ble y maent.

Mae arwyddion o dirlithriadau blaenorol i’w gweld ar hyd a lled bryniau Hen Dywodfaen Coch y Geoparc. Ac eithrio un, mae pob un o’r tirlithiadau mawr wedi digwydd o fewn y Cerrig Cochion a gwelyau Senni – yr olyniaeth o dywodfeini a cherrig llaid sy’n ffurfio llawer o ran uchaf yr Hen Dywodfaen Coch. Maent oll yn dyddio ar ôl oes yr iâ ddiwethaf pan gwympodd fryniau a oedd wedi dod yn rhy serth neu a faliwyd gan rew neu ddŵr tawdd, i’r cymoedd.

Tirlithriadau o Geoparc

Tirlithriadau o Geoparc

Mae pob un o’r lleoliadau a restrir isod i’w cael ar daflen fap OL12 yr Arolwg Ordnans, sef ‘Brecon Beacons National Park; Western Area/Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog; Ardal Gorllewinol’. Mae mapiau graddfa 1:50,000 gan Arolwg Daearegol Prydain, sef 213 ‘Brecon’, 230 ‘Ammanford a 231 ‘Merthyr Tydfilyn ymdrin â’r ddaeareg. Mae llawer o’r safleoedd ysblennydd hyn yn gorwedd ar Ffordd y Bannau neu gerllaw iddi –dewch chi ar draws rhai ar deithiau cyhoeddedig eraill.

  • Sylwer bod cyfeirnodau grid a chodiadau sy’n uwch na lefel y môr yr Arolwg Ordnans ar gyfer y detholiad hwn o safleodd yn rhai bras yn unig.  

Blaen Taf Fawr

Mae rhan drionglog o’r llethr sy’n wynebu’r dwyrain uwchben rhannau uchaf Afon Taf wedi llithro, efallai drwy dandorri’r nant. Y ffordd orau o’i gweld yw drwy Ffordd y Bannau rhwng Pont ar Daf a Phen y Fan. Mae parcio ym Mhont ar Daf i’w gael yn SN 987199

  • Craig: tywodfeini Ffurfiant y Cerrig Cochion
  • Esgyniad: 550m / 1800 troedfedd
  • Cyf Grid: SN 993206

Craig Cerrig-gleisiad

Tirlithriad mawr – neu gyfres o dirlithriadau– y mae gan ei darddiadau gysylltiad agos â rhewlifiant y cwm hwn. Mae modd ei weld yn rhannol o’r A470 ond mae modd gweld y golygfeydd gorau drwy gerdded i’r cwm o’r gilfan yn SN 971222, neu gallwch ei weld oddi uchod o Ffordd y Bannau. Dynodwyd y safle cyfan fel gwarchodfa natur genedlaethol.

  • Craig: tywodfeini Ffurfiant Senni
  • Esgyniad: 500m / 1600 troedfedd
  • Cyf Grid SN 960220 – 975240

Craig y fro

Gan fod yr A470 yn rhedeg yn syth drwyddo a chan fod ardal barcio fawr ar ei ymyl ogleddol, hwn yw’r tirlithriad mwyaf hygyrch yn y Geoparc – hynny yw, os mai tirlithriad sydd yma mewn gwirionedd! Mae dadlau rhwng gwyddonwyr yn parhau o hyd ynghylch p’un a yw’r tirffurfiannau trawiadol a welir yma yn tarddu o rew ynteu lithriad. Cewch gipolwg drwy lygad aderyn o Ffordd y Bannau sy’n rhedeg uwchben.

  • Craig: tywodfeini Ffurfiant Senni
  • Esgyniad: 380m / 1250 troedfedd
  • Cyf Grid: SN 973207

Cwar y Gigfran

Er bod y llithriad trawiadol hwn yn gorwedd ychydig y tu allan i’r Geoparc, mae’n cael ei gynnwys yma am ei fod o ddiddordeb arbennig. Gallwch ei weld orau o Ffordd y Bannau ar hyd Craig y Fan Ddu. Wedi’i ffurfio o fewn Ffurfiant y Cerrig Cochion, mae’n ymestyn o ymyl tywodfaen uchel Cwar y Gigfran i lawr i nant Blaen-y-Glyn.

  • Craig: tywodfeini Ffurfiant y Cerrig Cochion
  • Esgyniad: 600 -700m / 2000 – 2300 troedfedd
  • Cyf Grid: SO 060198

Cwm Nant Lloi

Llithriad ychydig i’r de o Fwlch Bryn-rhudd. Mae cyn reilffordd Castell-nedd ac Aberhonddu yn mynd drwy ganol y llithriad yn yr un modd â Thramffordd Coedwig Aberhonddu gynt. Gellir ei weld o ffordd yr A4067 i Abertawe neu’r llwybr goddefol sy’n dilyn yr hen reilffordd o’r bwlch. Gallwch barcio yn y gilfan yn SN 867193

  • Craig: tywodfeini Ffurfiant y Cerrig Cochion
  • Esgyniad: 400m / 1300 troedfedd
  • Cyf Grid: SN 868188

Dyffryn Mellte

Mae ochr ddwyreiniol serth y ceunant lle y llifa afon Mellte uwchben ei chymer ag afon Hepste wedi cwympo, gan adael cymysgedd o glogfeini y mae coed wedi ymledu drosto. Cwympodd tywodfeini bregog a cherrig llaid gwan Grŵp Marros ar ryw adeg anhysbys ond ymhell yn ôl wrth iddynt gael eu tandorri gan yr afon. Gallwch ei weld orau o’r llwybr i lawr at Sgwd y Pannwr sy’n rhedeg trwy’i ganol – ceir taflen Llwybr y Pedair Rhaeadr o Ganolfan y Rhaeadrau.

  • Craig: cerrig llaid a thywodfeini Grŵp Marros
  • Esgyniad: 200m / 650 troedfedd
  • Cyf Grid: SN 923104

Fan Dringarth

Yn un o’r tirlithriadau mwyaf ysblennydd yn y Geoparc cyfan ac yn un o’r rhai lleiaf hygyrch ac felly yn un o’r rhai lleiaf adnabyddus. Mae ochr ddwyreiniol copa Fan Dringarth wedi torri i ffwrdd ac mae ychydig ohono bellach yn ffurfio toreth mawr o weddillion creigiog uwchben Afon Dringarth ar ben Cronfa Ystradfellte. Mae modd ei weld o Ffordd y Bannau gan ei fod yn rhedeg ar hyd cribyn y mynydd. I’w weld o Ffordd y Bannau wrth iddi redeg ar hyd esgair y mynydd.

  • Craig: tywodfeini Ffurfiant y Cerrig Cochion
  • Esgyniad: 500m / 1600 troedfedd
  • Cyf Grid: SN 942195 i SN 199188

Graig Fawr

Hwn yw’r unig dirlithriad ymhlith tirlithriadau’r Parc Cenedlaethol a’r Geoparc. Mae’r un yma i’w gael o fewn cerrig llaid a thywodfeini’r Haenau Glo uchaf, er bod tirlithriadau yn y creigiau hyn yn gyffredin iawn yn y maes glo i’r de. Mae dau lwybr troed cyhoeddus yn rhedeg drwy’r llithriad ar ochr orllewinol Cwm Pedol, i’r gorllewin o Frynaman er bod modd ei weld yn hawdd o ochr ddwyreiniol y cwm. Mae’r daith gerdded ‘O Gwm i Gwm’ yn mynd drwyddo – taflen am ddim ar gael yn lleol.

  • Craig: cerrig llaid a thywodfeini Haenau Glo
  • Esgyniad: 250m / 850 troedfedd
  • Cyf Grid: SN 695153

Y Graig Llech

Effeithiwyd ar y llwybr i lawr ceunant Nant Llech gan dirlithriad (i) ychydig flynyddoedd yn ôl ond erbyn hyn mae’n sefydlog. Yn fwy diweddar (yn gynnar 2016), cymherwyd llwybr allan gan slip (ii) ar waelod y ceunant – mae’r llwybr wedi’i ail-agor ond mae’r graith yn parhau i fod. Ceir tystiolaeth o lithriadau cynharach mewn mannau. Yn aml bydd llethrau serth sydd wedi’u torri i mewn i greigiau cymharol wan fel y cerrig llaid hyn yn yr Haenau Glo yn ansefydlog ac yn dueddol o lithro. Cerddwch i lawr o faes parcio’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ger Sgwd Henryd.

  • Craig: cerrig llaid a thywodfeini Haenau Glo, til rhewlifol
  • Esgyniad: (i) 230m / 800 troedfedd & (ii) 165m / 550tr
  • Cyf Grid: (i) SN 843122 & (ii) SN 837123