Golygfeydd o fewn cyrraedd hawdd dros a thrwy farian rhewlifol – olion rhewlif bychan a oedd yn nythu o dan y creigiau uwch y ffordd 11,000 o flynyddoedd yn ôl.
Cyfeirnod AO SN 972209
Dyma, o bosibl, y profiad eithaf o’r Oes Iâ ar fin y ffordd. Mae’r A470 wedi cael ei thorri drwy’r mynyddoedd o weddillion (marian rhewlifol) a gafodd eu gadael gan yr iâ wrth iddo doddi. Mae daearegwyr yn dal i ddadlau am bwysigrwydd perthnasol cwympiadau tir a gweithgaredd rhewlifol o ran ffurfio’r nodweddion tirwedd ar y safle hwn – penderfynwch chi!
Daeareg
- Hen Dywodfaen Coch (Defonaidd); Ffurfiant Cerrig Cochion
- Cwaternaidd; marianau rhewlifol, cwympiadau tir?
Mapiau
- OS Landranger 160, Map Explorer OL12
- Daearegol – dalenni BGS 1:50,000 : 213 ‘Brecon’ a 231 ‘Merthyr Tydfil’
Canllaw
- Cyfeirir ato yn y llyfr ‘Classic Landforms’ (ar gael o Ganolfannau Gwybodaeth y Parc Cenedlaethol)
Cyfleusterau
- Yn achlysurol mae yma fan hufen iâ/fan gwerthu byrgyrs
- Parcio am ddim yn yr encilfa yn SN 972209
- Mynediad am ddim
Hygyrchedd
- Safle arsylwi gwastad ar ochr y ffordd
Cysylltiadau cludiant
- Yn y car — ger yr A470
- Ar y trên — mae’r gorsafoedd agosaf yn Llanymddyfri, Merthyr Tudful a’r Fenni – ewch i Traveline Cymru
- Ar y bws — ewch i Traveline Cymru; gwasanaethau X17 ac X43 rhwng Caerdydd ac Aberhonddu – yn aros ar yr A470 ger Storey Arms a Hostel Ieuenctid Llwyn y Celyn