Mae’r dirwedd a diwydiant yn gysylltiedig yn agos drwy gwm Tawe i gyd.
Mae blaenddyfroedd Afon Tawe – Blaentawe – yn codi tua 550 metr /1850troedfedd i’r dwyrain o Fan Brycheiniog yn y Mynydd Du. Ar ôl i ddyfroedd sy’n llifo o Lyn y Fan Fawr ymuno â hi mae Afon Tawe sy’n tyfu’n rhaeadru dros slabiau Hen Dywodfaen Coch sy’n gostwng i’r de i mewn i Glyntawe. Yma mae Afon Haffes a’r dyfroedd sy’n dod allan o systemau ogofâu Dan yr Ogof o dan y Mynydd Du yn ymuno.
Mae’r gwendid daearegol o’r enw Cylchfa Ffawtio-plygu Cribarth yn croesi’r afon ger Parc Gwledig Craig-y-nos ac mae’r Calchfaen Carbonifferaidd sydd wedi’i ffawtio a’i blygu’n dynn yn taflu bwtresi serth i fyny ar bob ochr yr afon; Cribarth a Chraig-y-nos i’r gorllewin a Chraig-y-Rhiwarth i’r dwyrain.
Wrth deithio i lawr yr afon, caiff dyfroedd Afon Byfre Fechan eu gollwng i Afon Tawe yn Rhongyr Uchaf, ar ôl pasio trwy system ogofâu ddyfnaf Prydain – Ogof Ffynnon Ddu.
Wrth basio heibio Pen-y-cae ac Ynyswen, Abercraf a Chae’r-Lan, mae’n gadael y Geoparc ychydig i’r gogledd o Ystradgynlais. Mae ei chwrs is yn mynd â hi i lawr Cwm Tawe i’r môr ym Mae Abertawe.
Mae isafonydd Afon Tawe yn cynnwys Afon Giedd a Nant Llech; mae’r olaf wedi syrthio dros Sgwd Henrhyd yn gynharach yn ei chwrs.
Nant Llech
Y tlws yng nghoron Coelbren.
Mae Nant Llech Isaf a Nant Llech Pellaf yn cyfuno ym Mlaen-Llech i ffurfio Nant Llech. Ar ei thaith fer, gyflym i ymuno ag Afon Tawe ger Ynyswen mae’n neidio dros y Garreg Ddiffaith i ffurfio’r rhaeadr fwyaf yn Geoparc y Fforest Fawr (30 metr / 90 troedfedd) ac yn wir, un o’r rhai uchaf yn ne Cymru.
Mae Sgwd Henrhyd yn digwydd lle mae’r band hwn o dywodfaen gwydn yn cael ei ffawtio yn erbyn cerrig llaid sy’n cael eu herydu’n rhwydd. Bellach perchnogir a rheolir y safle gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Mae llwybr yn dilyn yr afon am weddill ei chwrs i lawr ceunant coediog hyfryd i Bont Llech a’i chydlifiad gydag Afon Tawe.
Afon Giedd
Dwy afon am bris un!
Mae Afon Giedd uwch yn draenio llethrau gorllewinol Fan Hir, sef ei tharddle i’r de o Fwlch Giedd sy’n gwahanu Fan Hir o Fan Brycheiniog. Wedyn mae’r afon yn llifo i’r de i fynd i mewn i ddarn o’r cwm sydd wedi’i dorri drwy’r brigiad Calchfaen Carbonifferaidd sy’n sych yn aml. Mewn tywydd gwlypach mae’r dyfroedd yn mynd i mewn i’r ddaear mewn pedwar man yn Sinc y Giedd / Sinc Giedd.
Tybiwyd yn y gorffennol eu bod yn dod allan eto ymhellach i lawr cwm Giedd ond gwyddys erbyn hyn eu bod yn mynd ar eu ffordd i’r de-ddwyrain i ddod allan yn Nan-yr-Ogof.
Mae Afon Giedd is yn yr un cwm â’r Afon Giedd uwch ond nid yw’n gysylltiedig â hi’n hydrolegol. Mae Nant Cyw’n ymuno â’r afon a chyn bo hir wedyn mae’n ymuno ag Afon Tawe yn Ystradgynlais.
Gellir dilyn hyd gyfan yr afon bron i gyd drwy ffordd, trac neu dir mynediad – er bod rhai rhannau’n anodd cael mynediad iddynt ac mae’n well ymylu o’u cwmpas.
Afon Twrch
Baedd a ffin
Mae Afon Twrch yn codi yn uchel ar y Mynydd Du. Mewn gwirionedd mae nentydd ei blaenddyfroedd yn cyrraedd tua 2500 troedfedd / 760 metr ar lethrau gorllewinol Fan Brycheiniog. Cafodd rhai o’r nentydd hyn eu cipio gan flaenddyfroedd Afon Sychlwch yn ystod cyfnodau cymharol ddiweddar, ac mae eu dyfroedd erbyn hyn yn llifo i Lyn y Fan Fach ac wedyn ymlaen i lawr Afon Sawdde i Afon Tywi yn lle hynny.
Mae Afon Twrch yn ffurfio’r ffin hynafol rhwng Sir Gaerfyrddin a Sir Frycheiniog (Powys erbyn hyn) o Fan Foel i lawr i Ystradowen.
Mae’n bosibl bod yr enw yn deillio o symudiad ‘trwyno’ tybiedig ei dyfroedd wrth iddynt ddisgyn yn serth o uchderau’r Mynydd Du i’w cydlifiad gydag Afon Tawe yn Ystalyfera.