Pen y Fan a Chorn Du

Teithiau cerdded poblogaidd dros yr Hen Dywodfaen Coch i’r copaon uchaf  yn ne Prydain. Mae eu copaon wedi eu ffurfio o dywodfaen caled a elwir yn briodol yn ‘welyau llwyfandir’.

Cyfeirnod  AO SO 012215 (copa)

Y bryniau poblogaidd hyn yw’r uchaf ym Mannau Brycheiniog (886m a 873m) ac maent yn denu niferoedd mawr o ymwelwyr sy’n gallu mwynhau golygfeydd eang o’u copaon.  Mae dyffrynnoedd ysblennydd yn syrthio i lawr i’r gogledd ac yn dangos tystiolaeth helaeth o weithgaredd rhewlifoedd yn ystod yr Oes Iâ ddiwethaf.

Daeareg

  • Hen Dywodfaen Coch (Defonaidd); Ffurfiant Cerrig Cochion, Gwelyau llwyfandir
  • Cwaternaidd; cymoedd rhewlifol a llyn

Mapiau

  • OS Landranger 160, Map Explorer OL12
  • Daearegol — dalenni BGS 1:50,000: 213 ‘Brecon’ a 231 ‘Merthyr Tydfil’

Canllawiau

  • Disgrifiwyd mewn arweinlyfrau amrywiol. Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn gwerthu rhai cardiau cerdded  – ‘Pen y Fan a Chribyn o Gwm Gwdi’ a ‘Cylchdaith y  Bannau’ (o Storey Arms) am £1 yr un.

Cyfleusterau

  • Toiledau, man picnic, gwybodaeth yn SN 987199
  • Meysydd parcio yn Storey Arms (SN 983203) a Phont ar Daf (SN 987198), hefyd islaw cronfeydd dŵr Neuadd,  i’r de-orllewin ac yng Nghwm Llwch i’r gogledd yn SO 006245 a SO 023247
  • Mynediad am ddim (eiddo’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yw’r tir)

Hygyrchedd

  • Gwlad agored; llwybrau creigiog, anwastad yn bennaf; 450m / 1500’ o lethr i’r copaon; amgylchedd mynyddig — cymerwch ofal!

Cysylltiadau cludiant

  • Yn y car — wrth yr A470 yn Storey Arms neu Bont ar Daf
  • Ar y trên — mae’r gorsafoedd agosaf yn Llanymddyfri, Merthyr Tudful — ewch i Traveline Cymru
  • Ar y bws — ewch i Traveline CymruGwasanaethau X17 ac X43 — mae’r arosfannau agosaf yn Libanus a Storey Arms ar yr A470

Atyniadau eraill gerllaw