Mae Geoparc y Fforest Fawr yn aelod o Rwydwaith Geoparciau Ewrop – teulu o 95 o ardaloedd dynodedig mewn 27 o wledydd ar draws y cyfandir. Dechreuodd Rhwydwaith Geoparciau Ewrop yn ystod trafodaeth rhwng dau ddaearegwr o Ffrainc a Gwlad Groeg a gwrddodd mewn cyngres ddaearegol ryngwladol ym 1997.
Gwelsant fod ganddynt ddiddordeb cyffredin mewn cadw a diogelu treftadaeth ddaearegol yr ardaloedd roeddent yn gweithio ynddynt. Nid yn unig hynny ond roeddent yn awyddus i wella dealltwriaeth y cyhoedd o wyddorau’r ddaear. Roeddent yn tybio y byddai datblygu atyniadau yn seiliedig ar ddaeareg ardal yn helpu ymwelwyr i werthfawrogi ac yn y pen draw i ofalu am y rhinweddau arbennig hynny.
Edrychont ledled Ewrop am bartneriaid eraill a oedd yn rhannu’r delfrydau hyn ac yn fuan daethant o hyd iddynt yn Haute Provence (Ffrainc), Maestrazgo / Terruel (Sbaen), ynys Lesvos (Gwlad Groeg) a Vulkaneifel (Yr Almaen). Enillodd y grŵp o bedwar hwn gyllid o’r Undeb Ewropeaidd er mwyn cyflawni eu nodau ac felly crëwyd Rhwydwaith Geoparciau Ewrop.
Ers hynny, mae mwy na 90 ardaloedd eraill ar draws Ewrop wedi ymuno â’r rhwydwaith fel y mae’r map uchod yn dangos.
Yn 2004, penderfynodd UNESCO gynorthwyo â sefydlu Rhwydwaith Byd-eang y Geoparciau, a daeth yr 17 Geoparc yn Ewrop ynghyd ag 8 Geoparc newydd yn Tsieina yn rhan ohono. Bellach mae Geoparciau yn Canada, Chile, De Corea, Ecuador, Indonesia, Malaysia, Morocco, Nicaragua, Peru, Ffederasiwn Rwsia, Siapan, Tansania a Brasil hefyd. Ewch i wefan Rhwydwaith Geoparciau Ewrop. Ym mis Tachwedd 2015 daeth y rhwydwaith ehangach hwn yn rhan o raglen gyntaf UNESCO ers 40 mlynedd, ac yn sefydlu’r parc yn ffurfiol fel rhan o Rwydwaith Geoparc Byd-eang UNESCO (GBU).
Yr Almaen
- GBU Geo-Naturpark Bergstrasse – Odenwald
- GBU Harz – Braunschweiger Land – Ostfalen
- GBU Muskau Arch (Gwlad Pwyl hefyd)
- GBU Ries UGGp – NEWYDD yn 2022
- GBU Swabian Alb
- GBU Terra.Vita
- GBU Thuringia Inselsberg – Drei Gleichen
- GBU Vulkaneifel
Awstria
- GBU Erz der Alpen (Ore of the Alps)
- GBU Styrian Eisenwurzen
- GBU Karavanke / Karawanken (Slofenia hefyd)
Croatia
Cyprus
Denmarc
DU
- GBU y Wlad Ddu (Lloegr)
- GBU Rifiera Lloegr (Lloegr)
- GBU y Fforest Fawr (Cymru)
- GBU GeoMon (Ynys Môn) (Cymru)
- GBU Cuilcagh Lakelands (Gweriniaeth Iwerddon hefyd)
*a elwid ynt ‘GBU Ogofau Marble Arch’ - GBU Gogledd Pennines (Lloegr)
- GBU Gogledd Orllewin yr Ucheldiroedd (Yr Alban)
- GBU Mourne Gullion Strangford (Gogledd Iwerddon) – NEWYDD yn 2023
- GBU Shetland (Yr Alban)
Yr Eidal
- GBU Adamello-Brenta
- GBU Apuan Alps
- GBU Aspromonte
- GBU Beigua
- GBU Parco Nazionale del Cilento e Vallo di Diano (Campania)
- GBU Parc Mwyngloddio Daearegol Sardinia
- GBU Madonie
- GBU Majella
- GBU Pollino
- GBU Rocca di Cerere
- GBU Sesia – Val Grande
- GBU Parc Mwyngloddio Tuscany (Toscana)
Ffederasiwn Rwseg
- GBU Yangan-Tau
Y Ffindir
- GBU Lauhanvuori-Haemeenkangas
- GBU Rokua
- GBU Saimaa
- GBU Salpausselkä – NEWYDD yn 2022
Ffrainc
- GBU Beaujolais
- GBU Massif des Bauges
- GBU Causses du Quercy
- GBU Chablais
- GBU Reserve Naturelle Geologique de Haute Provence
- GBU Parc Naturel Regional de Luberon
- GBU Monts d’Ardeche
Gweriniaeth Iwerddon
- GBU Y Burren a Chlogwynni Moher
- GBU yr Arfordir Copr
- GBU Ogofau Marble Arch (Gogledd Iwerddon, DU hefyd)
Gwlad Belg
Gwlad Groeg
- GBU Chelmos-Vouraikos
- GBU Betraidd Lesvos
- GBU Grevena Kozani
- GBU Kefalonia-Ithaca – NEWYDD yn 2022
- GBU Lavreotiki – NEWYDD yn 2023
- GBU Psiloritis
- GBU Sitia
- GBU Vikos-Aoos
Gwlad yr Iâ
Gwlad Pwyl
- GBU Mynyddoedd Holy Cross
- GBU Muskau Arch (Yr Almaen hefyd)
Hwngari
- GBU Bakony-Balaton
- GBU Novohrad – Nograd (Slofacia hefyd)
Yr Iseldiroedd
Lwcsembwrg
- GBU Mëllerdal – NEWYDD yn 2022
Norwy
- GBU Gea Norvegica
- GBU Magma
- GBU Sunnhordland – NEWYDD yn 2023
- GBU Trollfjell
Portiwgal
Rwmania
- GBU Buzau – NEWYDD yn 2022
- GBU Gwledig Deinosoriaid Hateg
Sbaen
- GBU Basque Coast (Pais Vasco)
- GBU Cabo de Gata-Nijar (Andalucia)
- GBU Canolbarth Catalunya
- GBU Conca de Tremp-Montsec (Catalonia)
- GBU El Hierro (Yr Ynysoedd Dedwydd)
- GBU Granada
- GBU Las Loras
- GBU Maestrazgo
- GBU Molino Alto Tajo
- GBU Origens
- GBU Courel Mountains
- GBU Parc Naturiol Sierra Norte de Seville
- GBU Sierras Subbeticas (Andalucia)
- GBU Sobrarbe (Aragon)
- GBU Villuercas Ibores
- GBU Lanzarote & Ynysoedd Chinijos (Yr Ynysoedd Dedwydd)
Serbia
Slofacia
- GBU Novohrad – Nograd (Hwngari hefyd)
Slofenia
- GBU Idrija
- GBU Karavanke / Karawanken (Awstria hefyd)
Sweden
- GBU Platabergens – NEWYDD yn 2022