ABC CHD DDEFGHI JL LL
MN OP PHR RHST THUW Y
I
Iapetws / Iapetus
Cefnfor a orweddai rhwng hen gyfandiroedd Lawrasia ac Afalonia yn ystod y cyfnodau Cambriaidd ac Ordofigaidd. Wrth i’r cefnfor gau yn ystod y Cyfnod Silwraidd, esgorwyd ar gyfnod o greu mynyddoedd a adwaenir fel yr ‘Orogeni Caledonaidd’. Mae’r enw Iapetws yn deillio o enw gŵr a oedd, ym mytholeg gwlad Groeg, yn dad Atlas.
is-gyfnod rhewlifol / stadial
Cyfnod rhewlifol byr yn ystod oes iâ. Ceir rhyng-gyfnod cynhesol rhwng pob is-gyfnod rhewlifol.
Is-gyfnod Rhewlifol Dimlington / Dimlington Stadial
Cyfnod mwyaf rhewllyd yr oes iâ ddiwethaf (y rhewlifiant Defensaidd), a ddigwyddodd rhwng oddeutu 26,000 a 15,000 o flynyddoedd yn ôl.
Is-gyfnod Rhewlifol Loch Lomond / Loch Lomond Stadial
Y cyfnod oer, a oedd yn dynodi diwedd y Pleistosen, a gofnodwyd rhwng 13,000 ac 11,500 o flynyddoedd calendr yn ôl. Yn ystod y cyfnod hwn, a ddilynodd rai miloedd o flynyddoedd o hinsawdd gynhesach, adfeddiannodd rhewlifau bach rai o beirannau Fforest Fawr.
J
Jwrasig / Jurassic
Cyfnod daearegol a barhaodd am 56 miliwn o flynyddoedd rhwng 201 a 145 o filiynau o flynyddoedd yn ôl. Gweler graddfa amser ddaearegol.