Mynydd Illtud, Glyn Tarell a Chanolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol
Dewiswch daflen Geolwybr o Ganolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol ac yna fwynhau mynd am dro ar y tir comin ar Fynydd Illtud. Ewch yn ôl i Ganolfan Ymwelwyr i gael paned neu ginio.
Dafliad carreg i ffwrdd mae Glyn Tarell, a’r olygfa eiconaidd o Ben y Fan a’r Corn Du i’r dwyrain, a Gwarchodfa Natur Genedlaethol Craig Cerrig-gleisiad a Fan Frynych i’r gorllewin.
Os oes gennych awr neu lai:
- Ymweld â’r siop ac ystafell de ac ardal newydd i’r plant y tu allan.
- Mynd am dro ar y tir comin.
- Mynd am dro byr i’r Warchodfa Natur Cenedlaethol yng Nghraig Cerrig-gleisiad.
Os oes gennych hanner diwrnod (2-4 awr):
- Ewch am dro hirach ar y tir comin e.e Geolwybr Mynydd Illtud, ne dadlwythwch a dilynwch y Geodaith.
- Ymweld ag Aberhonddu – siopau, caffis, Y Gaer (amgueddfa), Eglwys Gadeiriol ayyb.
Os oes gennych ddiwrnod llawn (5-8 awr):
- Dilynwch gerdyn llwybrau er mwyn dringo Pen y Fan o Storey Arms (nid tafarn!) ne o Bont ar Daf.
- Dilynwch y llwybr Glyn Tarell (Ymddiriedolaeth Genedlaethol) uchaf oddi yma hefyd, er mwyn gweld golygfeydd gwych o farianau rhewlifol a tirlithriadau tir Craig Cerrig-gleisiad.