Y Cyfnod Permaidd

(299 i 252 miliwn o flynyddoedd yn ôl)

Ni chredir bod unrhyw greigiau o’r oes hon wedi’u cadw o fewn Geoparc y Fforest Fawr nac yn unman arall yn ne Cymru. Mae bylchau fel hyn yn y cofnod daearegol yn bwysig gan ei fod yn dangos i ni fod yr ardal yn agored i erydu o ran ei chreigiau yn hytrach na chael eu dyddodi. Yn y cyfnod Permaidd y câi’r tir mynyddig ei wastatau’n barhaus a chredir bod hyn wedi nodweddu’r ardal.

Mae’n bosibl bod y mynyddoedd hyn ond rhyw 10 neu 20 gradd i’r gogledd o’r Cyhydedd ar yr adeg honno ac mae’n debygol bod yr hinsawdd wedi bod yn boeth ac yn sych. Gallech ei chymharu â Gwlff Persia heddiw.

Mae’r enghreifftiau agosaf o greigiau o’r cyfnod hwn i’w gweld yr ochr draw i Glawdd Offa ryw 50 milltir i’r dwyrain.

Beth sydd mewn enw?

Daw enw’r cyfnod hwn o ddinas a rhanbarth Perm ym Mynyddoedd Wral Rwsia lle y cafodd creigiau o’r oes hon eu hastudio gan Syr Roderick Murchison a oedd hefyd yn weithgar yn y rhan hon o Gymru.