(485 – 443 miliwn o flynyddoedd yn ôl)
Mae’r creigiau hynaf sydd i’w cael yn y Geoparc yn perthyn i’r cyfnod y mae daearegwyr yn cyfeirio ato fel y cyfnod Ordofigaidd. Rhoddwyd yr enw hwn i’r cyfnod gan y daearegydd Fictoraidd enwog, Charles Lapworth, ar ôl y llwyth Cymreig, yr Ordofigiaid a fu’n byw mewn rhannau mawr o ganolbarth a gogledd Cymru. Mae’r creigiau (a ddangosir fel ardal coch golau ar y map uchod) yn cynnwys cymysgedd cymhleth o gerrig llaid, calchfeini a thywodfeini. Mae’r creigiau Ordofigaidd ieuengaf yn awgrymu bod lefel y môr ym mhedwar ban byd wedi gostwng wrth i oes iâ fawr gydio. Mae daearegwyr yn cydnabod chwe ‘ffurfiant’ o fewn olyniaeth ddiweddar creigiau’r cyfnod Ordofigaidd.
Haenau creigiau (ffurfiannau) | Disgrifiad | Trwch yn fras |
Cwmcringlyn (uchaf/ieuengaf) | Tywodfeini gyda rhai cerrig llaid | Hyd at 50m |
Ciliau | Cerrig llaid siltiog gyda cherrig silt sy’n gyfoethog mewn calch a thywodfeini tenau | Hyd at 250m |
Yr Allt | Cerrig llaid a thywodfeini | Hyd at 300m |
Cribarth | Cerrig llaid tywodlyd a thywodfeini lleidiog | Hyd at 400m |
Tridwr | Cerrig llaid gyda thywodfeini tenau | Hyd at 1150m |
Cerrig llaid Nantmel (isaf/hynaf) | Cerrig llaid gyda thywodfeini tenau | Hyd at 700m |
Ewch i’r Llinell amser Ordofigaidd.
Mae’r rhan hon o’r wefan yn parhau i gael ei datblygu ar hyn o bryd – bydd modd gweld ffotograff o’r creigiau Ordofigaidd yma