Pan fydd daearegwyr yn sôn am strwythur ardal, maent yn cyfeirio at batrwm y ffawtiau a’r plygiadau sy’n effeithio ar y creigiau.
Mae ffawtiau a phlygiadau i’w cael o bob lliw a llun. Er enghraifft, mae ffawtiau cymhleth o fewn y Geoparc sy’n ymestyn dros ddwsinau o filltiroedd ar draws cefn gwlad ac sy’n cynnwys ffawtiau a phlygiadau eilaidd hefyd. Cyfeirir at yr ardaloedd hyn o newidiadau dwys yn ne Cymru fel ‘cylchfaoedd ffawtio-plygu’. Ar y llaw arall, mae ffawtiau a phlygiadau bach eraill a allai ond ymestyn dros bellter o ychydig fetrau yn unig.
Mae ffawtiau a phlygiadau’n tueddu i ffurfio pan roddir y graig o dan bwysau mawr. Yn ystod cyfnodau penodol yn hanes daearegol Fforest Fawr, mae ehangdiroedd wedi gwrthdaro ag eraill drwy’r broses o ddrifftio cyfandirol. Ar achlysuron o’r fath, bydd gwelyau creigiau’n crychu ac yn gwasgu o dan y pwysau mawr sy’n gysylltiedig. Mae’r prosesau hyn yn hynod amlwg yng nghreigiau Silwraidd ac Ordofigaidd y Geoparc.
Mae gwybodaeth am ffawtiau unigol i’w chael yma.
Mae Cylchfa Ffawtio-plygu Cwm Tawe yn ardal o ffawtio a phlygu y gellir ei holrhain o Abertawe yr holl ffordd at Gwm Tawe drwy Ystradgynlais a Glyntawe i ran ganolog Fforest Fawr. Mae’n parhau i’r gogledd-ddwyrain fel Ffawtiau Cribarth a Chwm Tawe sy’n rhedeg i’r gogledd o Aberhonddu ac ymlaen at Y Gelli.
Mae Cylchfa Ffawtio-plygu Cwm Nedd yn set fawr o rwygiadau a gellir ei holrhain yn hawdd gan ei bod yn gyfrifol am gwrs syth a hir Cwm Nedd. Mae’n rhedeg i’r gogledd-ogledd-ddwyrain drwy’r Geoparc o Bontneddfechan lle gellir cael golwg gwych arni yn Bwa Maen, islaw Cronfa Ddŵr Llwyn-onn sy’n arwain yn ddiweddarach i Grughywel.
Cylchfa Ffawtio Carreg Cennen yw’r llinell fwyaf gogleddol ymhlith tair llinell fawr o rwygiadau a phlygu sy’n effeithio ar y Geoparc. Mae modd ei holrhain o aber Afon Tywi, heibio i Gastell Carreg Cennen ac ymlaen at Drecastell a Phontsenni. Mae’n parhau am gryn bellter i’r gogledd-ddwyrain fel Cylchfa Ffawtio Church Stretton.
Ffawtiau eraill – mae casgliad o ffawtiau sydd i’w cael yn rhedeg o’r gogledd-ogledd-orllewin i’r de-dde-ddwyrain drwy greigiau Carbonifferaidd y Geoparc. Maent yn gyfrifol am alinio cymoedd penodol fel Cwm Taf ac mae ganddynt ran bwysig i’w chwarae ym ‘mro’r sgydau’ o amgylch Ystradfellte a Phontneddfechan.
Mae’r rhan fwyaf o’r rhaeadrau ysblennydd i’w cael lle bo’r ffawtiau hyn yn dod â thywodfeini mwy gwydn yn erbyn cerrig llaid mwynach.