Gofalu

Cafodd Fforest Fawr ei dynodi fel y Geoparc cyntaf yng Nghymru i raddau helaeth oherwydd ei threftadaeth ddaearegol bwysig.

Bu ei thirweddau dramatig wrthi’n cael eu creu ers cannoedd o filiynau o flynyddoedd.  Nid yw cyfraniadau dynolryw i’r dirwedd hon ond yn dudalennau a ysgrifennwyd yn ddiweddar mewn llyfr sy’n ffurfio o hyd.

Mae newid yn parhau i effeithio ar y Geoparc.  Os cewch chi olwg ar Afon Wysg yn gorlifo, rydych yn dyst i gerrig a phridd coch llachar y Geoparc yn gwneud rhan arall o’u taith o’r mynyddoedd i’r môr.  Mae ffawd amrywiol y diwydiant ffermio a chyflymder cynyddol newid yn yr hinsawdd yn ddau ddylanwad arall ar y dirwedd hon sy’n newid o hyd.

Gall rhai newidiadau gael eu dylanwadu gan benderfyniadau a wnawn ynglŷn â sut caiff y dirwedd ei rheoli.   Rhoddwyd amrywiaeth o ddynodiadau i dirweddau a chynefinoedd bywyd gwyllt a welir yn arbennig o werthfawr.  Mae pob un yn dod â chyfyngiadau, cymhelliannau a chyfleoedd i wahanol raddau.

Darganfyddwch sut rydym yn ymateb i’r her o ddiogelu Bro’r Sgydau mewn ffilm fer a gynhyrchwyd gan UNESCO.

O fewn Geoparc Byd-eang UNESCO y Fforest Fawr dewch chi o hyd i enghreifftiau o’r dynodiadau canlynol:

RIGS (Safleoedd Geoamrwyiaeth Pwysig Rhanbarthol)

Dechreuodd prosiect i archwilio safleoedd daearegol de-ddwyrain Cymru, gan gynnwys y Geoparc cyfan, tua diwedd 2008. Disgwylir i hyn arwain at ddynodi dwsinau o ‘Safleoedd Geoamrwyiaeth Pwysig Rhanbarthol (neu RIGS) yn y Geoparc erbyn 2011. Mae hefyd yn bosibl y bydd yn arwain at adnabod nifer o ‘safleoedd o ddiddordeb ar gyfer cadwraeth natur’ (neu ‘SINC’).

Mae manylion pob un o’r 47 ‘RIGS’ yn y Geoparc ar gael yma.

Sefydlwyd grŵp RIGS ar gyfer y rhanbarth ym mis Chwefror 2013 ac mae’n cynnwys unigolion gwybodus sydd â diddordeb yn y maes, rhai ohonynt yn dod o wahanol sefydliadau ac eraill ddim; ei ffocws yn bennaf yw Geoparc Byd-eang UNESCO y Fforest Fawr yn ei grynswth. Bydd y Grŵp RIGS De-ddwyrain yn cymryd rhan mewn gweithgareddau geogadwraeth a hybu dealltwriaeth o safleoedd RIGS – ewch at ei wefan am fwy o wybodaeth.

Mae’r cynllun amaeth amgylchedd Glastir yn gweithredu yn yr ardal. Gallwch chi ddod o hyd i ragor o wybodaeth am ddynodiadau tirweddau a bywyd gwyllt ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru.

Geosafleoedd

Mae geosafle yn gymdogaeth, yn fawr neu’n fach, sy’n arddangos nodweddion daearegol a/neu geomorffolegol yr ystyrir eu bod o ddiddordeb i ymchwil, addysg, dehongliad, cadwraeth neu hanes gwyddor daear.

Mae pob un o’r safleoedd o fewn y Geoparc sydd wedi’i gofnodi fel SoDdGA daearegol (neu gymysg), ac yn cynnwys Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol gydag elfen ddaearegol, ynghyd â’r holl RIGS yn cael eu hystyried yn ‘geosafleoedd’. Y tu hwnt i’r rhain mae llu o safleoedd eraill y cyfeirir atynt mewn teithiau cerdded, sgyrsiau ac arddangosfeydd sy’n helpu i adrodd stori’r Geoparc. Gellir ystyried y rhain hefyd yn geosafleoedd yn ystyr ehangach y term.

Cymryd eich rhan

Nid yw diogelu a chadw’r dirwedd hon yn rhywbeth i’r llywodraeth ac awdurdodau lleol yn unig; gall pob un ohonom wneud gwahaniaeth hefyd.  Mae Geoparc Byd-eang UNESCO y Fforest Fawr yno i’w fwynhau: os gallwn ni ei ddeall a’i barchu hefyd, byddwn yn helpu i sicrhau bod ei rinweddau arbennig yn parhau.

Casglu ffosiliau

Mae Geoparc Byd-eang UNESCO y Fforest Fawr yn llofnodwr i Siarter Rhwydwaith Geoparciau Ewrop sy’n gwahardd gwerthu ffosiliau a sbesimenau mwynau gan ei bartner-sefydliadau. Adnodd cyfyngedig yw ffosiliau – trwy ddiffiniad, nid ydynt yn bridio! Nid yw’r Geoparc yn caniatáu gwerthu ffosiliau gan ei bartneriaid nac yn hyrwyddo casglu ffosiliau oddi mewn i’w ffiniau; yn wir, mae eu casglu o lawer o’r safleoedd a restrir uchod wedi’i wahardd o dan y gyfraith. Fodd bynnag, croeso i chi fynd adre gyda ffotograffau ac atgofion o ddiwrnodau a dreuliwyd yn mwynhau dod i nabod trigolion cynharaf yr ardal!