Y creigiau ieuengaf o’r cyfnod Carbonifferaidd
Creigiau Westffalaidd
Mae creigiau o’r oes Westffalaidd i’w cael ar hyd ymyl ddeheuol y Geoparc.
Roedd coedwigoedd corsiog trwchus yn cynnwys rhawn y march mawr a rhedyn yn ffynnu yn awyrgylch llawn ocsigen yr oesoedd Westffalaidd. Mae toreth o olion ffosiledig i’w gweld ar ffurf gloeau, cerrig llaid a thywodfeini sydd gyda’i gilydd yn gwneud Haenau Glo De Cymru. Yn draddodiadol, cânt eu rhannu yn dair uned, ac o’r rhain dim ond y ddwy hynaf (Haenau Glo Isaf a Chanol) sydd i’w cael yn y Geoparc.
Mae sylfaen Haenau Glo Isaf De Cymru wedi’i diffinio gan y Garreg Ddiffaith, sef tywodfaen trwchus sydd i’w gael yn eang ar draws y maes glo. Ond, mewn gwirionedd, nifer o dywodfeini gwahanol sydd yma, pob un ar yr un haenen yn olyniaeth y creigiau. Daw’r enw unigryw o weithgareddau mwynwyr a oedd yn chwilio am haearnfaen. Wrth gyrraedd y lefel hon, ni chaent unrhyw lwyddiant pellach gan nad oedd unrhyw fwyn haearn yn gorwedd o dan yr haenen hon. Dechreuodd glowyr ddefnyddio’r term hefyd gan ei fod yr un mor berthnasol i wythiennau glo.
Mae’r Garreg Ddiffaith wedi’i dangos mewn gwyrdd ar y map hwn.
O fewn yr Haenau Glo Uchaf, Tywodfeini Pennant sy’n ffurfio’r sgarp sy’n wynebu’r gogledd y tu hwnt i ffin ddeheuol y Geoparc. Gellir mwynhau golygfeydd ardderchog dros ymyl ddeheuol y Geoparc o’i brig. Mae’r maes parcio oddi ar yr A4061 uwchben yr adran fachdro yn fan arbennig o dda i fwynhau’r golygfeydd.
Haenau creigiau | Disgrifiad | Trwch yn fras |
Haenau Glo Uchaf (Haenau Pennant) | Tywodfeini a cherrig llaid gyda gwythiennau glo | hyd at 600 m |
Haenau Glo Canol | Cerrig llaid gyda gwythiennau glo | hyd at 360 m |
Haenau Glo Isaf | Cerrig llaid gyda gwythiennau glo | hyd at 240 m |