Priddoedd

Mae priddoedd yn darparu’r rhyngwyneb rhwng ein daeareg a’r byd byw. Maent yn siapio’r llystyfiant sydd wedi’i wreiddio ynddynt ac yn eu tro yn cael eu siapio eu hunain gan y planhigion hynny, ac yn wir gan y creigwely oddi tanynt a’r hinsawdd leol.

Mae priddoedd asidig iawn wedi datblygu dros y cerrig Grutfaen Melinfaen a Haenau Glo sy’n ymddangos ar hyd ymylon deheuol y Geoparc. Mae’r priddoedd hyn yn annog tyfiant planhigion megis migwyn, hesgen, tormaen a’r llusen goch. Mae’r priddoedd sydd wedi’u draenio’n well yn yr ardaloedd hyn yn dueddol o gael eu gorchuddio gan frenhinbysg, grug a’r llusen.

Dros y Calchfaen Carbonifferaidd, mae cyfres eglur o briddoedd wedi datblygu sy’n cynnal cymuned wahanol o blanhigion.  Mae’r ystod o rywogaethau hefyd wedi’i reoli’n agos gan bori gan ddefaid a ffactorau eraill megis uchder.

Mae’r Hen Dywodfaen Coch yn cynhyrchu priddoedd niwtral neu asid y mae planhigion megis cloch yr eos a thresgl y moch yn ffynnu arnynt.

Mae tyfiant coed wedi’i leihau lle mae gorbori gan ddefaid yn digwydd.  Mae grug a’r llusen yn cael eu ffafrio mewn ardaloedd sydd wedi’u pori’n wael tra bod rhostir glaswelltog yn nodweddiadol o ardaloedd sy’n cael eu pori’n helaeth.

Mae tymereddau priddau’n amrywio gydag uchder ac mae hyn yn effeithio ar ddosbarthiad rhywogaethau planhigion blynyddol, dwyflynyddol a lluosflwydd. Yn gyffredinol mae rhywogaethau blynyddol a dwyflynyddol yn llai goddefgar o amgylchiadau eithafol a deuir o hyd iddynt yn is na 300 metr. Mae cyfran uchel o rywogaethau lluosflwydd sydd wedi’u haddasu’n well ar gyfer goroesi mewn amgylchiadau eithafol wedi’u cofnodi yn uwch na 300m.

Gan gydnabod ei bwysigrwydd i fiosffer iach ac amaethyddiaeth, mae Geoparc y Fforest Fawr yn nodi Diwrnod Pridd y Byd ar 5 Rhagfyr bob blwyddyn.