Mae Calchfaen Carbonifferaidd (Cil yr Ychen/Calchfaen Dowlais, Gronellfaen Penderyn a Chalchfaen Penwyllt) yn cael ei ecsbloetio ers yr Oesoedd Canol. Câi ei losgi i wneud morter calch i’w adeiladu ac i ddarparu fflwcs ar gyfer darfodi metelau. Defnyddir calchfaen powdr (calch amaethyddol) i niwtraleiddio pridd asid, gwella draeniad a darparu maetholion cemegol ar gyfer cnydau.
Mae amledd yr odynnau calch yn y Geoparc yn dyddio o’r 18fed a’r 19eg ganrif pan oedd galw mawr am galch ar gyfer amaethyddiaeth, ar gyfer adeiladu ac wedyn ar gyfer y diwydiannau haearn a chopr a oedd wrthi’n codi. Glo oedd y prif danwydd ar gyfer llosgi calch bryd hynny. Mewn cyfnodau cynharach defnyddid siarcol wrth losgi calch, a byddai defnyddio pren wedi cael effaith ar weddill y coetir yn yr ardal.
Morter calch
Mewn technegau adeiladu traddodiadol, byddai ‘calch’ yn cael ei ychwanegu at y dŵr, ac mae tywod ychwanegol yn rhoi morter calch i ymuno â cherrig wal gyda’i gilydd ac efallai hefyd i ddarparu rendro arwyneb.
Beth yw fflwcs?
Defnyddir fflwcs yn y prosesau gwneud haearn a chopr i gael gwared ar amhureddau fel silica (SiO2). Yn gyntaf mae’r calchfaen (yn bennaf CaCO3) yn cael ei losgi (‘calchynnu’) mewn odyn i ffurfio calch brwd (CaO). Ychwanegir hwn at y mwyn haearn ac mae’n adweithio gyda’r silica i ffurfio calsiwm silicad (‘slag’) sydd yna’n cael ei wahanu oddi wrth yr haearn neu’r copr tawdd.
CaO (calch brwd) + SiO2 (silica) -> CaSiO3 (calsiwm silicad /’slag’)
Toddi Copr
Cychwynnwyd yr angen i gael calchfaen ar raddfa fawr fel fflwcs yn niwydiannau mwyndoddi De Cymru pan ddatblygwyd toddi copr yn rhan isaf Cwm Tawe. Dechreuodd toddi copr yn ardaloedd Abertawe a Chastell-nedd ym 1717 ac roedd ardal Abertawe wedi sefydlu fel canolfan toddi copr erbyn 1720. Erbyn 1778 roedd toddi copr yn Abertawe yn cael ei ystyried yn brif ddiwydiant Prydain a pharhaodd Abertawe yn ganolfan cynhyrchu copr i’r byd tan 1920. Roedd chwareli yn ardal y Geoparc, yn enwedig yng Nghribarth, yn cyflenwi calchfaen fel fflwcs i’r diwydiant toddi copr.
Toddi Haearn
Ym 1759 dechreuodd John Wilkinson a’i bartneriaid doddi haearn ym Merthyr Tudful ar ymyl ddeheuol y Geoparc. Disodlwyd y defnydd cychwynnol ar siarcol i’r diben hwn yn ail flwyddyn y cynhyrchu gan olosg o dan gyfarwyddyd John Guest, rheolwr y cwmni. Ym 1763 datblygodd Anthony Bacon Waith Haearn mawr Cyfarthfa. Dilynwyd Bacon gan Richard Crawshay ac o dan ei arweiniad ef roedd y broses bwdlo well ar gyfer cynhyrchu haearn gyrr – y dull Cymreig – i chwyldroi’r diwydiant. Roedd y belt diwydiannol a ddatblygodd ar hyd rhimyn gogleddol maes glo De Cymru angen calchfaen fel fflwcs yn y broses doddi. Roedd y galw hwn yn cael ei gwrdd gan chwareli yn y Geoparc.
Lle cafodd ei chwarei?
Roedd chwareli mawr yn cynnwys y rhai yng nghymhleth Chwareli Mynydd Du i’r gogledd o Brynaman, ym Mhenwyllt, Penderyn ac ychydig y tu allan i’r ardal ym Mhontsticill. Mae olion gweithfeydd llai pwysig i’w gweld eto yn Carreg yr Ogof, Carnau Gwynion (ger Ystradfellte), Craig y Ddinas a Cadair Fawr ymysg mannau eraill.