(23 – 2.6 miliwn o flynyddoedd yn ôl)
Hyd y deallir, nid oes unrhyw greigiau o’r oes hon wedi’u cadw o fewn Geoparc y Fforest Fawr. Yn yr un modd â’r rhan fwyaf o Brydain (ond nid rhannau o dde a ddwyrain Lloegr), roedd yr ardal yn gorwedd yn uwch na lefel y môr yn ystod y rhan fwyaf o’r cyfnod hwn ond credir ei bod wedi cael hinsawdd a newidiodd o fod yn gynnes-gymedrol i oer-gymedrol. Mae’n bosibl bod dyddodion trwchus o ‘dywod silica’ sydd wedi’u gwasgaru o amgylch bryniau’r Geoparc wedi ffurfio yn ystod cyfnodau Palaeogenaidd/Neogenaidd. Awgrymwyd bod y tywodydd briwsionllyd hyn, a oedd yn greigiau caled yn wreiddiol, wedi deillio o dreulio dwfn ar y safle o ran Tywodfaen Twrch mewn hinsawdd boeth.
Ymhell i’r gorllewin, roedd Môr yr Iwerydd fel y mae heddiw, yn parhau i ymledu ac ymhell i’r de, roedd yr Alpau yn parhau i godi. Yng Nghymru, fel dros lawer o orllewin Prydain, câi’r creigiau eu codi cymaint â 1000 metr o bosibl, fel bod yr hyn sy’n weddill ar ôl erydu dilynol yn ffurfio’r bryniau uchel presennol.
Ymestynnodd llên iâ yr Antarctig a ddatblygwyd ar ddiwedd y cyfnod Palaeogenaidd (tua 33 miliwn o flynyddoedd yn ôl) yn ystod y cyfnod Neogenaidd.
Mae’r brigiadau agosaf ar dir o greigiau o’r oes hon i’w cael yng Nghernyw, Caint a Suffolk.
Beth sydd mewn enw?
Y cyfnod Neogenaidd, ynghyd â’r cyfnod Palaeogenaidd sy’n ei ragflaenu, yw’r enwau newydd ar gyfer yr hyn roeddem yn arfer cyfeirio ato fel y Cyfnod Trydyddol.
Mae’r enw ‘Neogen’ yn deillio o’r gair Lladin am ‘ffurfiant newydd’ – rhan ddiweddarach y cyn gyfnod Trydyddol.
Mae ‘Trydyddol’ yn perthyn i gyfnod yn hanes y wyddor pan gâi amser daearegol ei rannu ym mhedair trefn ‘fawr’: Sylfaenol, Eilaidd, Trydyddol a Chwaternaidd. Nid ydym yn defnyddio’r ddau derm cyntaf erbyn hyn ond mae ‘Trydyddol’ a ‘Chwaternaidd’ yn cael eu defnyddio’n aml o hyd.
Yn rhyfedd iawn, ystyriwyd y cyfnod Cwaternaidd (sy’n parhau hyd heddiw) i fod yn rhan o’r cyfnod Neogenaidd ac adlewyrchir hyn mewn llyfrau a phapurau a ysgrifennwyd gan ychydig o ddaearegwyr.