Y Cyfnod Palaeogenaidd

(66 i 23 miliwn o flynyddoedd yn ôl)

Hyd y deallir, nid oes unrhyw greigiau o’r oes hon wedi’u cadw o fewn Geoparc y Fforest Fawr. Yn yr un modd â’r rhan fwyaf o Brydain, roedd yr ardal yn gorwedd yn uwch na lefel y môr yn ystod y rhan fwyaf o’r cyfnod hwn a chredir ei bod wedi cael hinsawdd rannol-drofannol.

Ymhell i’r gorllewin, roedd Môr yr Iwerydd, fel y mae heddiw, yn parhau i ymledu wrth i Ogledd America ac Ewrop ymrannu. I’r de, roedd yr Alpau yn codi. Roedd llosgfynyddoedd yn ffrwydro yng ngorllewin yr Alban ond, yng Nghymru, fel dros lawer o Dde Prydain, cafodd y creigiau eu codi, cymaint â 1000 metr o bosibl, fel bod yr hyn a oedd yn weddill ar ôl erydu’n ffurfio’r bryniau uchel presennol.

Datblygodd llên iâ yr Antarctig tua diwedd y cyfnod Palaeogenaidd.

Mae’r brigiadau agosaf o greigiau o’r oes hon i’w cael ar arfordir Bae Aberteifi rhwng Tywyn a Phorthmadog.

Beth sydd mewn enw?

Y cyfnod Palaeogenaidd ynghyd â’r cyfnod Neogenaidd sy’n ei ragflaenu yw’r enwau newydd ar gyfer yr hyn roeddem yn arfer cyfeirio ato fel y Cyfnod Trydyddol. Mae’r enw ‘Palaeogen’ (neu ‘Paleogen’) yn deillio o’r gair Lladin am ‘hen ffurfiant’ – rhan gynharach y cyn gyfnod Trydyddol. Cyfeirir ato weithiau fel y Paleogen, yn enwedig mewn gweithiau ysgrifenedig Americanaidd.

Mae ‘Trydyddol’ yn perthyn i gyfnod yn hanes y wyddor pan gâi amser daearegol ei rannu yn bedair trefn ‘fawr’: Sylfaenol, Eilaidd, Trydyddol a Chwaternaidd. Nid ydym yn defnyddio’r ddau derm cyntaf erbyn hyn ond mae ‘Trydyddol’ a ‘Chwaternaidd’ yn cael eu defnyddio’n aml o hyd.