Mae estyniadau deuol uwch Afon Taf – afonydd Taf mawr a bychan – yn ymestyn i ucheldiroedd y Geoparc o’u cydlifiad yng Nghefn-coed-y-cymmer.
Mae Afon Taf Fawr yn codi ar lethrau gorllewinol Corn Du ar uchder o tua 600 metr /2000 troedfedd uwchben lefel y môr. Yn mynd o dan ffordd yr A470 ym Mhont ar Daf, mae’n mynd i’r de ac wedyn i’r dwyrain ychydig i lawr Cwm Taf tuag at Ferthyr Tudful. Bellach mae’r cwm yn gartref i dair cronfa ddŵr – Bannau, Cantref a Llwyn-onn, sy’n cyflenwi dŵr i drefi sychedig y de.
Cafodd y cwm ei erydu ar hyd llinell Ffawt Eglwys Merthyr. Byddai’r parth hwn o garreg ddrylliog wedi cael ei erydu’n rhwydd gan ddŵr ac iâ dros gyfnod hir o amser.
Mae Afon Taf Fechan yn codi fel Blaen Taf Fechan o dan gopaon Pen y Fan a Chorn Du, yn mynd i’r de-ddwyrain ac wedyn i’r de cyn troi’n sydyn i’r gorllewin i’r de o Bontsticill. Mae ei ychydig o filltiroedd olaf cyn cyfuno gyda’i gefell mwy wedi’u torri i mewn i’r Calchfaen Carbonifferaidd ar hyd ymyl deheuol y Geoparc i ffurfio ceunant a ddilynir gan Daith Taf.
Adeiladwyd argae ar yr afon i ffurfio Cronfeydd Dŵr Neuadd Uwch, Neuadd Is a Phontsticill.
Mae estyniadau uwch y ddwy afon yn dilyn gostwng deheuol Hen Dywodfaen Coch Bannau Brycheiniog wrth i’r creigiau – tywodfeini’r Ffurfiant Cerrig Cochion – blymio i’r de o dan y Calchfaen Carbonifferaidd, y Grutfaen Melinfaen a Haenau Glo Maes Glo De Cymru.