(4540 – 539 miliwn o flynyddoedd yn ôl)
Ni chredir bod unrhyw greigiau o’r oes hon i’w gweld ar yr wyneb o fewn Geoparc y Fforest Fawr ond byddant yn sicr yn bodoli’n ddwfn yn y ddaear.
Mae’r brigiadau creigiau agosaf o’r oes hon i’w cael yn Sir Benfro i’r gorllewin ac yn ardal Bryniau Moelfryn i’r dwyrain. Mae creigiau hynaf Cymru – pob un ohonynt o’r cyfnod Cyn-Gambriaidd – i’w cael ar Ynys Môn ac ar y gororau yn Kington.
Beth sydd mewn enw?
Defnyddiwyd y term ‘Cyn-Gambriaidd’ yn wreiddiol i gyfeirio at unrhyw greigiau sy’n hŷn na’r Cyfnod Cambriaidd. Yn annhebyg i adegau Cambriaidd, Silwraidd ac ati, nid yw’n ‘gyfnod’ ac nid yw’n ‘orgyfnod’ mewn ystyr ddaearegol ffurfiol. Mae’r adeg Gyn-Gambriaidd yn cyfrif am 90% o oes y Ddaear ac, erbyn heddiw, caiff ei hisrannau fesul sawl ‘aeon’.