Llinell amser Silwraidd

Mae’r cyfnod hwn yn cynnwys nifer o gyfresi a chyfnodau, ac mae enwau rhai o’r rhain yn deillio o’r rhan hon o’r byd. Roedd yn para o 444 i 419 miliwn o flynyddoedd yn ôl.

Y Cyfnod Silwraidd

Roedd y cyfnod cymharol fyr hwn yn ymestyn ychydig dros 25 miliwn o flynyddoedd. Caiff ei rannu yn bedair cyfres/pedwar epoc sy’n cael eu hisrannu ymhellach yn nifer  o gyfnodau/oesoedd. Ar draws rhannau mawr o Brydain, ystyrir bod creigiau epoc Pridoli – y creigiau Silwraidd ieuangaf  – yn perthyn i’r ‘Hen Dywodfaen Coch’, sy’n gwbl Ddefonaidd mewn oedran fel arall.

  • Epoc Pridoli (423Ma – 419Ma)
    • heb ei isrannu ar hyn o bryd
  • Epoc Llwydlo (427Ma – 423Ma)
    • Cyfnod Ludfordaidd
    • Cyfnod Gorstiaidd
  • Epoc Wenlock (433Ma – 427Ma)
    • Cyfnod Homeraidd
    • Cyfnod Sheinwoodaidd
  • Epoc Llanymddyfri (444Ma – 433Ma)
    • Cyfnod Telychaidd
    • Cyfnod Aeronaidd
    • Cyfnod Rhuddaidd

Ma = miliwn o flynyddoedd  (yn ôl)