Creigiau o Oes Namuraidd o’r cyfnod Carbonifferaidd
Mae’r creigiau Namuraidd (Y Grŵp Marros) yn cynnwys Tywodfaen Twrch (rhan gwyrdd golau ar y map isod) a ffurfiant gorchuddiol Ffurfiant Carreg Laid Bishopston (Llandeilo Ferwallt) a Ffurfiant Tywodfaen Trwyn Telpyn Point.
Byddwch yn gweld enwau hŷn am y creigiau hyn mewn llyfrau ac ar fapiau. Roedd creigiau’r Grŵp Marros yn hysbys gynt fel Cyfres Grutfaen Melinfaen, roedd Tywodfaen Twrch yn hysbys fel Grutfaen Gwaelodol ac roedd Ffurfiant Carreg Laid Bishopston a Thrwyn Telpyn Point yn hysbys fel y Grŵp Siâl.
Mae Tywodfaen Twrch yn dywodfaen gwydn sy’n arwain at nodweddion amlwg ar y dirwedd megis Tair Carn Uchaf. Cerrig llaid a thywodfeini tenau yw creigiau Ffurfiant Carreg Laid Bishopston a Ffurfiant Tywodfaen Trwyn Telpyn Point. Ffurfiwyd y rhaeadrau ysblennydd o amgylch Ystradfellte lle bo afonydd yn arllwys i lawr ymylon rhai o’r haenau tywodfaen hyn, gan dreulio’r cerrig llaid mwy meddal oddi tanynt.
Haenau creigiau | Disgrifiad | Trwch yn fras |
Carreg laid | Siâl gyda ‘haenlinau morol’ | 25-65 m |
Tywodfaen Deuddeg Troedfedd | Tywodfaen | 4 m |
Carreg laid | Siâl gyda ‘haenlinau morol’ | 5-10 m |
Tywodfaen Twrch | Tywodfaen cwrs gyda ‘haenlinau morol’ | 40 m |
Beth sydd mewn enw?
Daw’r enw ar y grŵp hwn o greigiau o Farros yn ne-ddwyrain Sir Benfro lle maent yn agored i’r tywydd ar y clogwyni arfordirol, gan gynnwys Trwyn Telpyn Point, lle mae rhan uchaf y dilyniant wedi’i datgelu. Daw’r enw ar Dywodfaen Twrch o Afon Twrch, sydd wrth dorri drwy’r Mynydd Du, yn datgelu’r haenau creigiau lle maent i’w cael yn fwyaf aml. Mae Bishopston yn bentref ym mhenrhyn Gŵyr lle mae’r cerrig llaid i’w cael ac, fel mae’r enw yn awgrymu, mae Tywodfaen Deuddeg Troedfedd yn mesur deuddeg troedfedd o drwch (neu tua 4m)!