Bro chwedlonol

Llanymddyfri a Myddfai


Ewch am ymweliad â thref farchnad y Canolbarth sef Llanymddyfri yn Nyffryn Tywi, lle tywysogion Cymru a phorthmyn eu clodfori.

Chwiliwch am bentref traddodiadol Myddfai yn Sir Gaerfyrddin. Yno gallwch gael paned a chacen yn y neuadd bentref sydd hefyd yn ganolfan ymwelwyr, a dod i wybod am chwedl Morwyn Llyn y fan Fach, a Meddygon Myddfai. Yna, ewch ar hyd bryniau’r Tywodfaen Coch tua’r de, neu dilynwch gamau’r Rhufeiniaid â beic gyda chi, neu benthycwch un o siop leol er mwyn dod i adnabod y gornel ddiwylliannol hon o’r Geoparc.

Os oes gennych awr neu lai:

Os oes gennych hanner diwrnod (2-4 awr):

  • Cerdded ar Fynydd Myddfai.
  • Ymweld â chaffi a siopau Llanymddyfri.
  • Archwilio’r gwersylloedd Rhufeinig ar y Pigwn: llwybr sain ac app.
  • Beicio ar lwybr cylchog Cronfa Ddwr Wysg o Bont ar Wysg.

Os oes gennych ddiwrnod llawn (5-8 awr):

  • Ewch am dro ar y tren ar hyd  Rheilffordd Calon Cymru.
  • Beicio ar hyd ffyrdd bach tawel heibio Llanddeusant ac yna gerdded at Llyn y Fan.
  • Fach i gael eich cyfareddu gan y marianau a’r hen chwedl.

Oeddech chi’n gwybod . . ?

. . . . mae ‘Epoc Llandovery’ (Llanymddyfri) yn derm a ddefnyddir gan ddaearegwyr o amgylch y byd wrth siarad o ddigwyddiadau 440 miliwn o flynyddoedd yn ôl – boed yng Nghymru, Tsieina neu Perw!