Mae Bro’r Sgydau wedi bod yn arbennig o brysur yn ddiweddar. Beth am archwilio rhan arall o’r Geoparc neu’r Parc Cenedlaethol ehangach ar hyn o bryd?
Mae daith gerdded yn dechrau ger y graig galchfaen ysblennydd hon a gloddiwyd ac a ffurfiwyd ger Cylchfa Ffawtio-plygu Castell-nedd ar ben Cwm Nedd.
Cyfeirnod AO SN 912079 (maes parcio) i SN 920086
Mae’r daith gerdded fyrraf ar hyd glannau Afon Sychryd hyd golygfa o’r clogwyn serth Bwa Maen – plethiad daearegol tyn a gafodd yr enw ‘arch’ neu ‘fwa o graig’.
Daeareg
- Calchfaen Carbonifferaidd , Tywodfaen Twrch (‘Grutfaen Gwaelodol’)
Mapiau
- OS Landranger 160, Map Explorer OL12
- Daearegol — dalen BGS 1:50,000: 231 ‘Merthyr Tudful’
Cyfleusterau
- Caffi yn y neuadd gymunedol ar benwythnosau
- Maes parcio yn SN 912079
- Mynediad am ddim
Hygyrchedd
- Gwastad; yn rhydd o rwystrau
Cysylltiadau cludiant
- Yn y car — y tu hwnt i ddiwedd y B4242
- Ar y trên — mae’r gorsafoedd agosaf yng Nghastell-nedd a Merthyr Tudful — ewch i Traveline Cymru
- Ar y bws — ewch i Traveline Cymru