Y Cyfnod Cwaternaidd

(2.6 miliwn o flynedd yn ôl – y presennol)

Cerfiwyd tirwedd Cymru i’r siâp rydym yn ei gweld heddiw gan gyfres o oesoedd iâ yn ystod y ddwy filiwn o flynyddoedd diwethaf. Mae daearegwyr yn cyfeirio at yr un ddiweddaraf fel Oes yr Iâ Ddefensaidd.  O blith yr holl oesoedd iâ, hon sydd wedi gadael y dystiolaeth fwyaf ffres o’i hynt ar y dirwedd.

Dechrau oes iâ. . .

Câi eira a oedd yn cwympo ar gopaon gwastad y bryniau ei chwythu gan y gwyntoedd mawr ar eu llethrau gogleddol a dwyreiniol cysgodol lle roedd yn cronni’n raddol. Gan droi’n rhew, dechreuodd symud yn y pen draw i lawr bryn gyda’i bŵer ei hun fel rhewlif. Pan roedd pob oes iâ yn ei hanterth, byddai’r nifer fawr o rewlifoedd bach yn eu cymoedd uchaf yn cyfuno ac yn llifo i lawr y prif gymoedd fel afonydd llydan o rew. Llifodd Rhewlif Wysg i’r dwyrain dros Bontsenni ac Aberhonddu a chyn mynd tua’r dwyrain y tu allan i’r Geoparc drwy Grughywel a’r Fenni ac yna i’r de, cyn belled â phentref Brynbuga yn Sir Fynwy. Llifodd rhew o ran ogledd-orllewinol y Geoparc tua’r de-orllewin fel Rhewlif Tywi dros Lanymddyfri a Llandeilo tuag at Gaerfyrddin ac roedd rhewlifoedd eraill yn llifo i lawr cwm Tawe a Nedd tuag at Fae Abertawe.

Oes yr Ia

Etifeddiaeth rhewlifol

. . . ac yna’n toddi

Gadwodd y rhewlifoedd etifeddiaeth o glog-glai yn cynnwys clai, tywod, cerrig gro a chlogfeini o’r creigiau lleol a erydwyd oddi tanynt.  Cerfiodd dŵr tawdd o’r rhewlifoedd sianeli oddi tanynt ac i lawr yr afon oddi wrthynt ac yna, gwnaethant ffurfio eangderau ymestynnol o dywod a cherrig gro ar draws lloriau cymoedd.

Craig Cerrig-gleisiad

Craig Cerrig-gleisiad – cwm rhewlifol

Yn ddiweddarach . . .

Mae daearegwyr yn cyfeirio at y cyfnod amser ers yr Oes Iâ ddiwethaf fel y cyfnod Holosen, Fflandriaidd neu gyfnod ôl-rewlifol. Yn ystod y cyfnod hwn, mae afonydd megis afon Wysg ac afon Tywi wedi torri gorlifdiroedd i’r gweddillion rhewlifol ac wedi dyddodi llifwaddod ar eu traws.  Mae mawn wedi cronni mewn pantiau a adawyd yn y rhewglai fel sydd yn Nhraeth Mawr ar Fynydd Illtud ger Libanus ac mae llethrau ag erydu serth wedi ymgwympo’n llu gan adael creithiau creigiog ar y bryniau e.e. llethrau dwyreiniol Fan Frynych. Mae mwy am y pwnc hwn ar y dudalen ‘Tirlithriad!‘.

O bryd i’w gilydd, mae modd gweld lleidlifoedd newydd yn creithio llethrau mwy serth y mynyddoedd. Mae’r rhain fel arfer yn cynnwys ychydig fetrau ciwbig o dywod a llaid ac yn dod ar ôl stormydd glaw hynod drwm. Fel ag yn ystod gaeaf 2008/09, gall gweithgarwch rhew fod yn gyfrifol am baratoi’r tir hwn ar gyfer y cwympiadau sydyn hyn. Mae’r rhain yn brawf nad yw prosesau daearegol wedi mynd yn angof – mae daeareg yn parhau i ddigwydd o’n hamgylch!

Beth sydd mewn enw?

Mae’r enw ar y cyfnod hwn yn perthyn i gyfnod yn hanes y gwyddorau pan gâi amser daearegol ei rannu ym mhedair trefn ‘fawr’: Sylfaenol, Eilaidd, Trydyddol a Chwaternaidd. Nid ydym yn defnyddio’r ddau derm cyntaf erbyn hyn ond mae ‘Trydyddol’ a ‘Chwaternaidd’ yn cael eu defnyddio’n aml o hyd.

Mae daearegwyr yn parhau i anghytuno ar ba bryd y dechreuodd y Cyfnod Cwaternaidd. Mae rhai’n ei ddiffinio fel 1.8 miliwn o flynyddoedd yn ôl, mae rhai’n awgrymu ei fod yn nes at 2.6 miliwn. Hwn yw’r cyfnod daearegol byrraf o bell ffordd ond yr un pwysicaf wrth reswm – os dim ond oherwydd ein bod yn byw ynddo!

Mae’r enw ‘Defensaidd’ yn dod o’r enw Rhufeinig am Gaer – ‘Deva’ – gan mai yn Swydd Caer mae dyddodion a thirffurfiannau hynod bwysig sy’n dyddio o’r cyfnod hwn wedi’u hastudio’n fanwl.

A beth am y dyfodol?

Nid yw arwyneb y Ddaear wedi peidio â newid. Mae’r prosesau a ffurfiodd Cymru fodern yn parhau hyd heddiw a disgwylir iddynt barhau am filiynau os nad biliynau o flynyddoedd i’r dyfodol. Beth am gael cipolwg ar y dyfodol yma!

Darllen pellach

  • Campbell, S. a Bowen, D.Q. (1989) Quaternary of Wales, Geological Conservation Review Series, No. 1, Nature Conservancy Council, Peterborough, 238pp ISBN 0-86139-570-0 Ynghyd â throsolwg o Gyfnod Cwaternaidd Cymru, mae’r llyfr yn cynnwys erthyglau byr ar bedwar lleoliad yn y Geoparc: Cwm Llwch, Mynydd Du, Traeth Mawr a Chraig Cerrig-gleisiad.
  • Carr, S.J., Coleman, C.G., Humpage, A.J. a Shakesby, R.A. (golygyddion), (2007) Quaternary of the Brecon Beacons Field Guide, Quaternary Research Association, London 277pp ISBN 0907-780-725 Cyhoeddwyd am daith faes pum niwrnod gan QRA. Mae’r canllaw hwn yn cwmpasu amrywiaeth o safleoedd rhewlifol ac ôl-rewlifol yn y Geoparc. 
  • Shakesby, R.A. (2002) Glacial landforms of the Brecon Beacons, Geographical Association, 48pp Mae’r llyfryn bach hwn sy’n llawn gwybodaeth (rhif 13 yng nghyfres ‘Landform Guides’ GA) yn disgrifio geomorffoleg tirffurfiau rhewlifol yn y Mynydd Du, Fforest Fawr a chanol y Bannau.