Gweithfeydd chwareli calchfaen segur yn union oddi ar ffordd Brynaman i Langadog sy’n cael eu dehongli i’r cyhoedd.
Cyfeirnod AO SN 733187 (maes parcio)
Mae’r safle’n cynnig golygfeydd panoramig dros ochr orllewinol y Geoparc. Mae’n gyforiog o weithfeydd chwareli, pyllau ac odynnau calch segur.
Daeareg
- Carbonifferaidd: Siâl Calchfaen Isaf , Cil-yr-Ychen Calchfaen, Calchfaen Llandyfan, Siâl Calchfaen Uchaf, Tywodfaen Twrch
- Hen Dywodfaen Coch (Defonaidd): Ffurfiant Cerrig Cochion
Mapiau
- OS Landranger 160, Map Explorer OL12
- Daearegol — dalen BGS 1:50,000: 230 ‘Llandovery’
Canllaw
- Geolwybr
Cyfleusterau
- Parcio am ddim
- Mynediad am ddim
Hygyrchedd
- Yn agos i’r ffordd, gwlad agored, amgylchedd mynyddig — cymerwch ofal!
Cysylltiadau cludiant
- Yn y car — ar ffordd yr A4069 Llangadog-Brynaman
- Ar y trên — mae’r orsaf agosaf yn Llangadog — ewch i Traveline Cymru
- Ar y bws — ewch i Traveline Cymru; mae’r gwasanaethau agosaf yn mynd i Frynaman a’r 280/281 drwy Langadog