Adroddir stori am Gymro yn Llundain a gafodd ei berswadio i’w arwain at y man o ble daeth ei ffon gollen. Aethant yn ôl i Gymru, ac, wrth iddynt ddod o hyd i’r man, llwyddont i godi slab llydan o garreg yr oedd mynedfa i geudwll enfawr oddi tano.
Dywedodd y dyn doeth wrtho am beidio â chyffwrdd yn y gloch a oedd yn hongian yn y cyntedd. Wrth gyrraedd perfeddion yr ogof, daeth y ddau deithiwr o hyd i fyddin o filoedd o ryfelwyr yn cysgu ond yn barod i frwydro gydag arfwisgoedd, tarianau a chleddyfau. Roedd un ohonynt yn wahanol oherwydd ei gadfwyell a’i goron aur. Yng nghanol y cylch hwn o ryfelwyr cwsg roedd dau bentwr o aur ac arian. Dywedodd y dyn doeth y gallai gymryd cymaint ag y gallai ei gario ond bod rhaid iddo fod yn ofalus i osgoi cyffwrdd yn y gloch oherwydd byddai’r rhyfelwyr yn deffro.
Wrth adael yr ogof gyda’i freichiau’n llawn trysor, tarodd y Cymro yn erbyn y gloch, gan ddeffro un o’r rhyfelwyr a ofynnodd ‘Ydy’n ddydd?’ Atebodd y Cymro ‘Nac ydy, cysgwch ymlaen,’ fel y dywedodd y dyn doeth wrtho am wneud. Aeth y rhyfelwr yn ôl i gysgu a gadawodd y teithwyr.
Dywedodd y dyn doeth y gallai fynd yn ôl i gael rhagor ond bod rhaid iddo fod yn arbennig o ofalus i beidio â deffro’r gwestywr. Dyma oedd Arthur a’i ryfelwyr a oedd yn barod am y diwrnod pan fydd yr Eryr Du a’r Eryr Aur yn rhyfela. Byddent wedyn yn deffro a dinistrio gelynion y Cymry ac ail-gipio ynys Prydain, gan ailsefydlu eu brenin a’i lywodraeth yng Nghaerllion.
Aeth y Cymro yn ôl i gael rhagor o drysor ac unwaith eto, wedi’i lwytho gan aur, cnociodd yn erbyn y gloch ar ddamwain. Ond y tro hwn, wrth gael ei holi anghofiodd roi’r ateb a wnaeth yn flaenorol a chafodd ei guro’n ddidrugaredd gan rai o’r rhyfelwyr, ei amddifadu o’i drysor a’i daflu allan, ac o’r braidd roedd yn gallu cerdded. Ni ddaeth o hyd i fynedfa’r ceudwll hwnnw byth eto.