Trafnidiaeth ar ffyrdd, rheilffyrdd a dŵr

Yn ystod y ddwy ganrif a fu mae symud pobl a nwyddau wedi eu trawsffurfio gan gyfres o chwyldroadau cludiant. Yma yn y Geoparc, fel pob man arall, mae oes y camlesi ac oes y rheilffyrdd wedi eu cofnodi’n dda gan haneswyr. Roedd tramffyrdd yn nodwedd neilltuol yn yr ardal hefyd. Mae’r cyfan wedi gadael treftadaeth y gall ymwelwyr â’r Geoparc ei mwynhau’r dyddiau hyn.

Tramffyrdd

Mae nifer o dramffyrdd a oedd yn llinynnu eu ffordd ar un adeg drwy’r Geoparc. Rhai byrion oedd y rhan fwyaf ohonynt ond yr oedd eraill yn fwy uchelgeisiol. Yr hiraf oedd Tramffordd Fforest Brycheiniog a redai gynt o Gwm Tawe i Bontsenni.

Darllen pellach:

  • ‘The Brecon Forest Tramroads’ a gyhoeddwyd gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru (CBHC). Mae ynddo 368 tudalen o wybodaeth fanwl ar ddatblygiad un rhwydwaith neilltuol.

Rheilffyrdd

Ar wahân i Reilffordd Fynydd Brycheiniog, sy’n boblogaidd gyda thwristiaid, nid oes rheilffyrdd yn y Geoparc bellach. Hanner can mlynedd yn ôl roedd llinell Aberhonddu a Chastell-nedd yn dal i redeg i’r gorllewin a’r de o Aberhonddu i Gwm Tawe. Roedd Rheilffordd Cyffordd Aberhonddu a Merthyr yn rhedeg i fyny Cwm Taf Fechan ac yn ei blaen drwy Dwnel Torpantau i Lyn Collwn ac ymlaen i ymuno â’r llinell yn Nhalyllyn cyn mynd am Aberhonddu. Rhan ddeheuol yr hen reilffordd hon sydd erbyn hyn yn ffurfio terfyn dwyreiniol y Geoparc.

Roedd llinell yn arfer mynd i’r gogledd o Hirwaun i Benderyn – gellir dilyn hon bellach ar droed neu ar gefn beic, fel rhan o’r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol (llwybr 46).  Roedd estyniad dros dro ar y llinell hon yn rhedeg i’r gogledd i Gronfa Ddŵr Ystradfellte ar gyfer cludo deunyddiau adeiladu i godi’r argae.

Camlesi

I ddechrau adeiladwyd Camlas Mynwy ac Aberhonddu fel Camlas Aberhonddu a’r Fenni. Dim ond rhan fer ohoni sydd yn y Geoparc – 2 filltir rhwng y lociau yn y Groesffordd a basn terfynol y gamlas yn Y Watwn yn Aberhonddu.

Canal basin, Brecon

Camlas arboes Aberhonddu

Roedd dwy gamlas arall yn dod i gyfeiriad yr ardal o’r de. Nid oedd Camlas Abertawe (a derfynai ychydig cyn Abercraf) na Chamlas Castell-nedd (a oedd yn mynd i Lyn-nedd) yn cyrraedd y Geoparc. Serch hynny, roedd y ddwy yn allweddol i ddatblygiad diwydiannol yr ardal yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Ffyrdd

Gellir meddwl am y system ffyrdd fodern fel dau lwybr dwyrain-gorllewin wedi eu cysylltu â thri llwybr gogledd-de.

Mae’r llwybr gogleddol, yr  A40 yn mynd o Aberhonddu i Lanymddyfri drwy Bontsenni a Threcastell. Mae’r llwybr deheuol, Ffordd Blaenau’r Cymoedd yn cysylltu Merthyr Tudful a Chwm Nedd. Mae’r Ffordd Rhwng y Cymoedd yn parhau tua’r gorllewin o Lyn-nedd i  Abercraf yng Nghwm Tawe.

O’r tri chroes-lwybr y prif un yw cefnffordd yr A470 o Aberhonddu i Ferthyr Tudful sy’n croesi’r prif gefn deuddwr yn Storey Arms ar 439m OD.  Mae ffordd oddi ar hon (A4059) yn cysylltu â Ffordd Blaenau’r Cymoedd yn Hirwaun.  Yn ail o ran pwysigrwydd y mae’r A4067 rhwng Pontsenni ac Abercraf sydd â’i phwynt uchaf ym Mwlch Bryn Rhudd ar 369m.  Yn drydydd mae’r A4069 rhwng Llangadog a Brynaman, sy’n dringo at uchder o 493m ym Mhen Rhiw-wen.

Dechreuodd pob un o’r ffyrdd hyn ei bywyd fel ffordd dyrpeg yn y 18fed ganrif.

Cafodd yr is-ffordd o Bontneddfechan i Ystradfellte ac yn ei blaen i Gwm Llia ei hadeiladu fel rhan o’r ffordd dyrnpeg rhwng Abertawe ac Aberhonddu. Gellir dilyn ei llwybr ymhellach i’r gogledd ar droed, ar feic neu ar gefn ceffyl i’r gorllewin o Fan Frynych i ymuno â’r A4215 fodern i’r gogledd ddwyrain o Forest Lodge.

Dilynir llinell ffordd dyrnpeg a fethodd gan lwybr ceffylau sy’n rhedeg tua’r gogledd ar draws y Mynydd Du o Frynaman i Frest Cwm Lwyd. Er bod gordyfiant drosti a’r draenio’n wael, mae modd canfod ei lled gwreiddiol o hyd wrth iddi ymdroelli dros y rhostir.