Pen-y-crug

Bryngaer drawiadol o’r Oes Haearn ac olion gweithfeydd bric a theils yn eiddo i Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Cyfeirnod AO SO 029304 (copa)

Mae copa gwastad y bryn yn cynnig golygfeydd panoramig ledled Dyffryn Wysg gan gynnwys Aberhonddu a Bannau Brycheiniog. Mae’n cynnig safle da i sefyll ac ystyried y ffaith bod afon Wysg yn llifo, yn y gorffennol, drwy’r cymoedd yn union i’r gogledd a’r de o’r bryn. Er ei bod wedi ei orchuddio bron yn gyfan gwbl gan lystyfiant, mae’r bryn yn cynnwys tywodfaen a cherrig llaid Ffurfiant Llanfocha o’r ‘Hen Dywodfaen Coch’.

Daeareg

  • Hen Dywodfaen Coch (Defonaidd); Ffurfiant Llanfocha
  • Cwaternaidd; gwelyau afonydd segur

Mapiau

  • OS Landranger 160, Map Explorer OL12
  • Daearegol — BGS 1:50,000 ‘Brecon’

Canllaw

  • Taflen Geolwybr

Cyfleusterau

  • Parcio am ddim ar yr ochr orllewinol yn SO 028309
  • Mynediad am ddim

Hygyrchedd

  • Gwlad agored, llethr gymharol serth dros dir anghyson; llethr 100m / 300’  i gopa’r bryn, agored i’r tywydd

Cysylltiadau cludiant

  • Yn y car — ar hyd isffordd o Aberhonddu
  • Ar y trên — mae’r gorsafoedd agosaf yn Llanymddyfri, Merthyr Tudful a’r Fenni – ewch i Traveline Cymru
  • Ar y bws — ewch i Traveline Cymru; mae gwasanaethau X43, 63, 714 yn rhedeg o/i Aberhonddu
  • Ar feic — mae NCN 8 yn rhedeg drwy Aberhonddu; mae llwybr ceffylau yn rhedeg ar hyd Pen-y-crug ei hun.

Atyniadau Geoparc eraill sydd gerllaw