Llysgenhadon

Llysgenhadon

Rydym yn falch o’n Geoparc, ac o’r Parc Cenedlaethol yn ehangach. Gan ein bod eisiau i’n hymwelwyr ei fwynhau i’r eithaf, rydym wedi cynnig cyrsiau hyfforddi ar gyfer busnesau twristiaeth a busnesau eraill yn y parc a’r cyffiniau sy’n dod i gysylltiad ag ymwelwyr â’r ardal.

Llysgenhadon y Parc Cenedlaethol

Gwahoddir busnesau twristiaeth i ddod i’r hyfforddiant er mwyn dod yn Llysgenhadon cwbl gymwysedig ar gyfer y Parc Cenedlaethol. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae dros 300 o unigolion wedi ennill statws Llysgennad drwy gwblhau’r tridiau o hyfforddiant – yn eu mysg darparwyr llety, gweithgareddau antur, staff gwybodaeth ac ati. Mae’r cwrs yn cynnwys modiwl ar y Geoparc. Ceir rhagor o wybodaeth am Lysgenhadon y Parc Cenedlaethol yma.

Llysgenhadon y Geoparc

Caiff y rhai sydd eisoes wedi ennill eu tystysgrifau Llysgenhadon y Parc Cenedlaethol fynd yn eu blaenau i ennill eu tystysgrifau Llysgenhadon y Geoparc. Cynigir dau ddiwrnod o hyfforddiant AM DDIM – a hynny ym Mharc Gwledig Craig-y-nos ac ym Mhontneddfechan – gan gynnwys hanner diwrnod ‘yn yr ystafell ddosbarth’ a hanner diwrnod yn yr awyr agored yn y ddau leoliad. Mae’t tîm hwn bellach dros gant o gryf. Ceir rhagor o wybodaeth am Lysgenhadon y Geoparc yma.

Llysgenhadon Awyr Dywyll

Mae’r fenter hon hefyd yn agored i’r rheini sydd wedi cwblhau eu hyfforddiant Llysgenhadon y Parc Cenedlaethol. Mae degau o fusnesau eisoes wedi cael y dyfarniad hwn drwy ddod i’r deuddydd a gynigir AM DDIM. Ceir rhagor o wybodaeth am Lysgenhadon Awyr Dywyll yma.

Llysgenhadon eraill

Mae’r Awdurdod Parc Cenedlaethol yn datblygu hyfforddiant llysgenad ‘Bywyd Gwyllt’, ‘Treftadaeth’ a ‘Diwylliant Cymreig’ ac ar gyfer y rhai sydd wedi cwblhau’r hyfforddiant craidd.

Llysgenhadon Rhaeadrau

Mynychodd nifer o fusnesau sydd â diddordeb mewn dysgu mwy am y cyn Gwaith Powdwr Gwn ym Mhontneddfechan a’u lleoliad Bro’r Sgydau ehangach un o ychydig o ddigwyddiadau deuddydd a drefnwyd fel rhan o’r Prosiect Gwaith Powdwr Gwn a oedd yn rhedeg tan 2019.

Llysgenhadon Lleol

I’r rhai sydd heb gysylltiad uniongyrchol â thwristiaeth, rydym yn cynnig cynllun ar gyfer ardaloedd lleol. Mae degau o bobl sy’n gweithio mewn siopau, tafarnau neu fwytai, neu sydd o bosibl yn gwirfoddoli mewn rhyw ffordd, wedi treulio un sesiwn gyda’r nos yn ennill eu tystysgrif Llysgenhadon Lleol. Mae Llysgenhadon Lleol i’w cael eisoes, Llanymddyfri  Mae gennym gynlluniau ar gyfer Cwm Tawe uchaf, AberhondduDyffryn Aman, Cwm Twrch, Dyffryn Wysg Uchaf a Dyffrynnoedd Taf o fewn y Geoparc, ac hefyd yn y Fenni, Talgarth a Chrughywel.

Os ydych yn byw neu’n gweithio yn un o’r ardaloedd hyn ac yn dod i gysylltiad ag ymwelwyr, cofrestrwch ar un o’n sesiynau hyfforddi – cewch gwrdd â phobl eraill sy’n rhannu eich brwdfrydedd am yr ardal ac mae’r cyrsiau am ddim!  Mae mwy o ddyddiadau’n ar y gweill yn 2024; cadwch lygad allan.

Ni chodir tâl am unrhyw un o’r dyddiadau hyn, ond os gallwch, rhowch wybod i Swyddog Datblygu’r Geoparc, Alan Bowring os ydych am ddod draw – ffoniwch ef ar 01874 620415 neu anfonwch e-bost ato.