Ardaloedd o Hen Dywodfaen Coch

Mae’r ardaloedd o Hen Dywodfaen Coch wedi’u nodweddu gan sgarpiau serth sy’n wynebu’r gogledd a’r gogledd-ddwyrain, wedi’u hymylu’n aml gan frigiadau caregog.

Mae’r sgarpiau a’r cerrig hyn yn darparu amgylchiadau addas ar gyfer y cymunedau ar ysgafellau’r clogwyni gan gynnwys rhywogaethau Arctig – alpaidd prin megis y friwydden fynyddig, y tormaen cyferbynddail a’r pabi Cymreig.

Roedd y rhywogaethau hyn yn gyffredin ledled Prydain yn ystod yr Oes Iâ ddiwethaf ond, wrth i’r hinsawdd gynhesu, gwnaethant encilio i uchderau uwch.  Cânt eu bygwth gan ddifodiant o ganlyniad i gynhesu byd-eang.

Mae bandiau tenau o galcrit – calchfaen rwbelog – yn digwydd mewn mannau, weithiau’n achosi tarddlinau. Maent yn cynnig cilfach ar gyfer planhigion calchgar – planhigion sy’n hoffi calch.